Cost of Living Support Icon

AJ Williams MBEMarwolaeth y cyn Gynghorydd A.J. Williams

22 Mehefin 2017

 

Gyda thristwch mawr rydym yn cyhoeddi marwlaeth un o gyn Gynghorwyr Bro Morgannwg A.J. (Tony) Williams M.B.E a’i wraig, Faith, ddydd Sul 18 Mehefin, dan amgylchiadau trasig iawn yn eu cartref yn Llanddunwyd.

 

Roedd Tony Williams yn cynrychioli ward Llanbedr-y-fro Cyngor Bro Morgannwg tan ei ymddeoliad o lywodraeth leol a’r Cyngor yn 2007.  Roedd yn ward y bu’n ei chynrychioli ers sefydlu Cyngor Bro Morgannwg fel corff gweinyddol ym 1974, yn dilyn gwasanaethu fel Cynghorydd a Chadeirydd ar Gyngor Dosbarth Gwledig Caerdydd gynt. 

 

Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn cynllunio a materion amgylcheddol ac roedd yn un o sefydlwyr Arfordir Treftadaeth Morgannwg.

 

Yn ystod ei gyfnod fel gynghorydd, bu’n cynrychioli ei ward ar y Pwyllgor Cynllunio, gan gyflawni rôl Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio yn ogystal ag Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros faterion cynllunio.  Bu’n cynrychioli’r awdurdod ar Fwrdd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd ac ar Gyngor Talaith De Cymru.  

 

Bu Tony yn gyn Faer a Dirprwy Arweinydd y Cyngor yn ystod ei yrfa hir a nodedig.  Cafodd ei gydnabod yn Rhestrau Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2004, pan ddyfarnwyd yr M.B.E iddo am ei wasanaeth i lywodraeth leol a chadwraeth ym Mro Morgannwg.

 

Dywedodd Dr Ruth Williams, merch Tony a Faith: 

“Roedd gan dad lawer o atgofion a straeon hapus am ei 48 mlynedd o wasanaeth parhaus i’r gymuned ac roedd yn meddu ar wybodaeth fanwl am bob rhan o Fro Morgannwg. Yn aml iawn eu cartref nhw oedd ‘pencadlys’ ymgyrchoedd megis ‘Stop the Super Quarry’ yn y 1970au. Roedd Mam yn cefnogi Dad ym mhob ffordd, yn enwedig pan oedd hi’n Ddirprwy Faeres ac yna’n Faeres yn ystod agoriad y Swyddfeydd Dinesig yn 1981. Roedd yn trefnu ac yn paratoi bwyd ar gyfer digwyddiadau ym Mharlwr y Maer ei hun, ac oedd yr sefydliadau wrth eu bodd o gael gwahoddiadau pellach ar ôl iddynt flasu ei bwyd.  Mam sefydlodd Noson Elusennol y Maer a Boreau Coffi Elusennol y Faeres. Roedden nhw’n dîm ardderchog a oedd bob amser yn falch o fod yn genhadon ar ran Cyngor Bro Morgannwg.” 


Mynegodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ei sioc a’i dristwch o glywed y newyddion:

 

“Hoffwn gydymdeimlo â merch Tony a Faith, Dr Ruth Williams, ar ei cholled.  Rhoddodd Tony lawer o amser ac ymrwymiad i Gyngor Bro Morgannwg ac fe gefais i’r fraint a’r anrhydedd o gydweithio ag ef ers ymuno â’r Cyngor yn 1999.  Tony oedd yr hen law yn rhoi cymorth a chyngor gwerthfawr i mi fel Cynghorydd newydd a di-brofiad. Byddwn yn gweld ei eisiau ef a Faith yn fawr ac yn cofio amdanynt ill dau”

 


Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwyr a Phennaeth Gwasanaeth Cyflogedig Cyngor Bro Morgannwg;

 

“Roedd clywed am farwolaeth trist Tony a Faith Williams yn sioc i mi.  Bum yn cydweithio â Tony Williams ers i mi ymuno â’r Cyngor yn 1996 a hyd at ei ymddeoliad yn 2007, a thrwy Tony des i adnabod ei wraig, Faith.  Roedd Tony wastad ar flaen y gad yn y Cyngor o ran sicrhau bod Bro Morgannwg yn cael ei diogelu rhag datblygiad amhriodol. Roedd yn gefnogol iawn o waith swyddogion ac ar lefel bersonol gwnaeth fy nghefnogi i a rhoi cyngor gwerthfawr i mi ar ddechrau fy ngyrfa gyda’r Cyngor.  Mae fy meddyliau gyda merch Tony a Faith, Dr Ruth Williams, yn ystod y cyfnod anodd hwn."