Cost of Living Support Icon

Yr Heddlu a Chyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno rhybuddion llym dros neidio oddi ar Drwyn y Rhws  

 Don't jump in to the unknown

27 Mehefin 2017

 

MAE ymwelwyr i Drwyn y Rhws yn cael eu rhybuddio bod perygl o farwolaeth, anafiadau difrifol a dirwyon o hyd at £500 os ydynt yn neidio oddi ar glogwyni i'r dŵr yn ardal yr hen chwarel isod.


Mae grwpiau o bobl ifanc wedi bod yn ymgynnull yn y safle yn ystod y tywydd braf yn ddiweddar, gyda rhai ohonynt yn neidio i'r dŵr o uchder sylweddol.


Mae pobl wedi marw, wedi’u parlysu, wedi dioddef esgyrn yn chwalu ac anafiadau eraill all newid bywydau o ganlyniad i hyn.


Mae dyn lleol wedi'i barlysu ar ôl torri ei gefn wrth neidio i'r dŵr o Drwyn y Rhws ychydig flynyddoedd yn ôl, a bu llawer o farwolaethau yn Llynnoedd Cosmeston, ardal hen chwarel arall, ar ôl i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath sydd bellach wedi'u gwahardd.


Yn ogystal i’r peryglon a achosir gan gerrig yn ymwthio allan o waliau anwastad y chwarel, mae peryglon hefyd o dan y dŵr, gan gynnwys peiriannau o hanes diwydiannol y safle, a gall y dŵr oer achosi trafferth i bobl hefyd. 


Dywedodd Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Gwasanaethau Tai Cyngor Bro Morgannwg:

 

"Rydym yn awyddus i annog rhieni'r bobl ifanc sydd ynghlwm i gadw eu plant yn ddiogel drwy sicrhau eu bod yn defnyddio traethau'r Fro sydd ag achubwyr bywyd. 

 

Nid difetha hwyl pobl yw'r nod, ond yn hytrach cadw pobl yn ddiogel rhag peryglon go iawn. Mae Cymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yn cydnabod nofio a neidio i safleoedd hen chwareli yn beryglus ofnadwy gyda llawer o bobl ifanc yn colli bywydau yn y DU mewn blynyddoedd diweddar. Rydym yn ceisio gweithredu cyn i rywun gael ei ladd neu gael anafiadau difrifol.”


Bydd mwy o swyddogion yr heddlu ar waith yn yr ardal, ac mae Cyngor Bro Morgannwg wedi penodi mwy o staff diogelwch i sicrhau diogelwch ymwelwyr.


Mae Is-ddeddfau sy’n llywodraethu’r safle yn gwahardd nofio, a gall unrhyw un sy’n mynd i'r dŵr wynebu erlyniad troseddol neu Hysbysiad Cosb Benodedig.


Bydd asiantau gorfodi’r Cyngor a’r heddlu hefyd yn cymryd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal yn fwy difrifol, gyda chosbau megis Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar gyfer troseddau o’r fath.


Dywedodd Sarsiant yr Heddlu Mark John, Sarsiant Diogelwch Cymunedol Bro Morgannwg:

“Mae neidio oddi ar y clogwyni, neu ‘tombstoning’ fel y mae’n cael ei alw, yn ymddangos yn hwyl ond y gwirionedd yw ei fod yn anghyfrifol tu hwnt. Mae’n hynod beryglus, gan arwain at nifer o farwolaethau ledled y wlad. 

 

Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath nid yn unig beri risg i’r cyfranogwr, ond hefyd i bobl eraill megis y cyhoedd a’r gwasanaethau brys.

 

Mae’r is-ddeddfau sydd ar waith yn Nhrwyn y Rhws yno am reswm, a byddwn yn gweithio gyda’n cydweithwyr drwy gydol yr haf i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â hwy. 

 

Ochr yn ochr â'n partneriaid, byddwch yn bod yn fwy llym wrth ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal. Yn ystod y tywydd braf diweddar, roedd grwpiau o hyd at 100 o bobl yn ymgynnull yn yr ardal ar unrhyw adeg, a gwnaeth y sŵn, y sbwriel a'r parcio anghyfrifol a achosir gan rai effeithio ar y bobl sy'n byw'n gyfagos. Nid yw hyn yn dderbyniol, a byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn y rheiny sy’n achosi niwsans cyhoeddus neu’n anwybyddu’r gyfraith.”


Rydym wedi codi ffensys er mwyn eisio osgoi pobl rhag cyrraedd rhannau uchel y chwarel, er hoffa'r Cyngor bwysleisio mai nid gwneud i bobl osgoi'r ardal yw'r nod.
Mae croeso i bobl sy’n dymuno cerdded ar lwybr yr arfordir yn yr ardal neu fwynhau'r lleoliad deniadol, ac rydym yn gobeithio y bydd taclo'r broblem uchod yn ei gwneud hi'n ardal hyd yn oed yn fwy deniadol iddynt.