Cost of Living Support Icon

Y llygoden dŵr yn ol - mae 100 o lygod dŵr, rhywogaeth sydd mewn perygl, wedi cael eu rhyddhau ym mharc gwledig Cosmeston

 

21 Mehefin 2017

 

Cymerwyd cam mawr yr wythnos hon i warchod un o’r rhywogaethau prinnaf yng Nghymru pan gaiff 100 o lygod dŵr eu rhyddhau ym Mharc Gwledig Cosmeston ym Mhenarth.

 

Water Vole releaseMae poblogaeth y rhywogaeth - a anfarwolwyd gan y cymeriad Ratty yn y llyfr i blant Wind in the Willows – wedi lleihau hyd at 95% yn y DU ers y 1960au. Colli cynefinoedd sydd yn bennaf gyfrifol am hyn ac felly i geisio gwrthsefyll hyn mae Cyngor Bro Morgannwg ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu amgylchedd a baratowyd yn arbennig lle gall y cnofilod fyw a magu.

 

Ddydd Llun, bydd rhyddhau graddol ar y llygod dŵr, sydd wedi eu magu mewn sawl safle ledled y DU, yn dechrau. 

 

Byd y tîm yng Nghosmeston wrth law i roi help llaw iddynt addasu i’w amgylchedd newydd. 

 

Yn ystod yr wythnos fe fydd y bwyd a’r rhwydi artiffisial lle magwyd y llygod yn cael eu tynnu a bydd rhyddid i’r llygod newydd fwynhau eu cartref newydd.

 

 

Dyma’r project cyntaf o’i fath rhwng CNC ac awdurdod lleol ers i broject llwyddiannus tebyg weld llygod dŵr yn cael eu hailgyflwyno i ddyfrffyrdd ym Mhen-bre yn Sir Gaerfyrddin yn 2014.

 

“Ar un adeg roedd llygod dŵr yn gyffredin yn ein hafonydd, camlesi a phyllau ledled Cymru, ac yn rhan bwysig o’n hamgylchedd.

 

“Mae colli cynefin a bod yn ysglyfaeth i’r Minc Americanaidd wedi lleihau eu niferoedd ac mae’r rhywogaeth bellach mewn perygl.

 

“Bydd ein gwaith yn eu bridio nhw yn ein deorfa yng Nghanolbarth Cymru a’n partneriaeth ag awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau bywyd gwyllt a pherchnogion tir i wella cynefinoedd a chreu poblogaethau newydd, yn hwb i’w niferoedd.”

 

Richard Davies, Swyddog Magu Pysgod ar gyfer CNC

Bird on driftwood

Cynefinoedd a Bywyd Gwyllt 

Mae gan arfordir Bro Morgannwg amrywiaeth enfawr o blanhigion ac anifeiliaid, sy’n ei wneud yn un o’r ardaloedd o harddwch naturiol mwyaf amrywiol ei bioamrywiaeth yn Ne Cymru. Mae’r dirwedd yn amrywio o glogwyni serth i ffermdir mwyn ac mae’n cynnwys ystod o ecosystemau deinamig, rhai'n wyllt a rhai wedi'u rheoli gan y Gwasanaeth Ceidwaid.

 

Cynefinoedd a Bywyd Gwyllt

 

“Mae’r parc yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ddynodedig ac mae ei llynnoedd, ffosydd, gwlâu gwiail a bywyd planhigion eraill yn ei gwneud yn gynefin perffaith i alluogi llygod dŵr i ffynnu.

 

“Yma yng Nghosmeston rydym yn gwneud llwyth o waith gydag ysgolion lleol a grwpiau gwirfoddol i hyrwyddo cadwraeth ac yn dilyn y rhyddhau'r wythnos hon dyma fydd prif ffocws ein gwaith o safbwynt y creaduriaid. Byddwn yn addysgu plant a phobl ifanc ynghylch pwysigrwydd cynnal cynefinoedd creaduriaid brodorol a’r peryglon sydd ynghlwm â chyflwyno rhywogaethau newydd i’r eco system."

Aaron Jones, Parcmon yn Nghosmeston

Cosmeston Lakes

Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston

Mae amrywiaeth o gynefinoedd yn Cosmeston dros 100 hectar o dir a dŵr, ac mae rhai parthau wedi eu dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sy’n amddiffyn y rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid prin ac amrywiol a geir yma. Agorodd y parc i’r cyhoedd yn 1978 a’i ddyrchafu i statws Gwarchodfa Natur Leol ym mis Mai 2013. 

 

Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston