Cost of Living Support Icon
Rent Smart Wales

Rhentu Doeth Cymru – ydych chi’n cydymffurfio?

Hoffem atgoffa landlordiaid ac asiantau gydag eiddo yn Bro Morgannwg neu unrhyw ardal arall yng Nghymru bod pwerau gorfodi Rhentu Doeth Cymru ar waith bellach.

 

27 Mehefin 2017

 

Yn ôl cynllun Llywodraeth Cymru, sy’n helpu i godi safonau yn y sector rhentu preifat, mae gofyn i bob landlord preifat gofrestru ei hun a'i eiddo. Rhaid i Landlordiaid ac Asiantau sy’n gosod neu reoli eiddo gael trwydded yn ogystal.

 

Ers 23 Tachwedd 2016 mae’r pwerau gorfodi mewn grym, a gallai landlordiaid ac asiantau nad ydynt yn cydymffurfio wynebu amrywiaeth o sancsiynau gan gynnwys erlyn, Hysbysiadau Cosb Benodedig, atal rhent a gorchmynion ad-dalu rhent.  

 

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gynnwys Cyngor Bro Morgannwg, yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i amlygu’r rhai sy’n dal i beidio â chydymffurfio â’r gyfraith. Mae Cynghorau bellach yn erlyn y rheiny sydd wedi methu â chydymffurfio.

 

Os ydych chi’n landlord neu asiant sydd heb gydymffurfio eto, peidiwch ag oedi. Mae'n bwysig eich bod yn cymryd y camau angenrheidiol nawr i gydymffurfio ac osgoi unrhyw weithredu.

 

Os ydych chi’n denant ac yn dymuno cadarnhau a yw’ch landlord a/neu asiant yn cydymffurfio, gallwch weld gofrestr gyhoeddus Rhentu Doeth Cymru ar-lein yma: www.rentsmart.gov.wales/en/check-register

 

Os nad yw wedi cofrestru, gallwch gysylltu â Rhentu Doeth Cymru yma: www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/contact

 

I gael rhagor o wybodaeth am Rhentu Doeth Cymru cysylltwch â 

 

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch amodau eiddo rhent preifat yng Nghyngor Bro Morgannwg, cysylltwch