Cost of Living Support Icon

Miloedd yn mwynhau gŵyl Beats, Eats and Treats ynys y Barri


28 Mehefin 2017


Heidiodd miloedd o bobl i Ynys y Barri’n ddiweddar ar gyfer gŵyl Beats, Eats and Treats.

 

There are no images in the search content table for folder: 23343

 

Wedi’i drefnu gan Gyngor Bro Morgannwg, roedd y digwyddiad am ddim yn cynnwys penwythnos yn llawn cerddoriaeth fyw gan ystod o berfformwyr lleol, llawer o stondinau bwyd stryd, marchnad ffermwyr a stondinau crefft yn arddangos celf a diwylliant Cymreig. 


Helpodd Bro Radio, gorsaf radio leol, i greu awyrgylch gyfeillgar a bywiog i ymwelwyr drwy chwarae cerddoriaeth drwy'r penwythnos. Gwnaeth eu darllediadau byw, ynghyd â pherfformiadau gan Patsy Hunt, The Carolines a Jess Dobson ddiddanu'r rheiny oedd o dan gysgodfan y dwyrain gyda chymysgedd o steiliau cerddoriaeth.  


Ychwanegodd trefi gefail Bro Morgannwg, sydd wastad yn boblogaidd gydag ymwelwyr – Fécamp (Ffrainc), Rheinfelden (Yr Almaen) a Mouscron (Gwlad Belg) – synnwyr Ewropeaidd i’r penwythnos drwy werthu eu cynnyrch lleol: gwin, bara, caws a wafflau Gwlad Belg. 


Bu i arbenigwr chwythu gwydr Rheinfelden, Wilfred Markus, gynnig adloniant i bawb drwy arddangos ei sgiliau o ran creu deunydd gwydr, a'u gwerthu drwy gydol y penwythnos.


Roedd gan y digwyddiad rhywbeth at ddant pawb, gan gynnig stondinau bwyd stryd gan gwmnïau megis Meat and Greek, Mr Croquewhich, Ffwrnes Pizza a Viva Los Churros, a stondinau fegan newydd Brownins a Loving Hut Express, ynghyd â marchnad ffermwyr ac arddangosfeydd coginio gan arbenigwyr barbeciw’r Barri, Hangfire Southern Kitchen.

 

Cawsom dywydd da drwy gydol y penwythnos, ac roedd modd i ymwelwyr fwynhau’r haul gyda chwrw gan Tomos a Lilford, seidr gan Vale Cider neu hyd yn oed coctel gan Beetle Juice.


Roedd y digwyddiad yn addas i'r holl deulu, gydag ystod o stondinau crefft yn cynnig eitemau wedi'u gwneud yn lleol, a darparodd timau chwarae a llyfrgell y Cyngor adloniant a chwarae plant ar hyd promenâd y dwyrain.


Roedd pobl yn bositif iawn am y digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol, a dywedodd Dafydd Brown ei fod “wedi’i drefnu’n dda gyda stondinau o safon”, roedd David Forman yn “dwlu ar y digwyddiad ar yr Ynys", a llawer mwy yn dweud eu bod yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf.


Aeth y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, i’r ŵyl a dywedodd: “Dyma'r ail ŵyl Beats, Eats and Treats, ac unwaith eto roedd yn llwyddiant ysgubol.


“Roedd yn braf gweld yr ystod o fusnesau lleol yn gwneud yn dda, a gwnes i fwynhau siarad â'r rheiny a ddaeth draw o'r cyfandir i drafod y cynnyrch yr oeddynt yn ei werthu.


“Mae gweld miloedd o ymwelwyr yn mwynhau Ynys y Barri hefyd yn amlygu potensial y Fro o ran twristiaeth a digwyddiadau, a gobeithiaf y gallwn barhau i gyflawni penwythnosau fel hyn sy’n arddangos lleoliad ffantastig a busnesau lleol Bro Morgannwg.  


“Hoffwn ddiolch i bawb ynghlwm wrth drefnu a chynnal y digwyddiad – eu gwaith caled nhw wnaeth sicrhau bod y penwythnos yn llwyddiant.”


I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau’r haf ledled Bro Morgannwg, ewch i www.visitthevale.com/en/Events/Events-List.