Cost of Living Support Icon

Cyfrifwyr y Fro yn torri cost y fargen ddinesig

30 Mehefin 2017

Mae disgwyl i Gyngor Bro Morgannwg neilltuo swm o arian yn ei gyllideb i osod yn erbyn cost y Fargen Ddinesig i’r awdurdod lleol yn y dyfodol.

 

Caiff £1.25m ei neilltuo i gronfa wrth gefn y Fargen Ddinesig ar gyfer yr awdurdod lleol a gaiff ei ddefnyddio i dalu rhan o gyfraniad gofynnol y Cyngor i’r Fargen. Bydd hyn yn oedi unrhyw fenthyg ychwanegol a fydd ei angen gan y Cyngor.

 

Dywedodd y Cyng. Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: “Mae hyn yn gam doeth a fydd yn lleihau’r cost hir dymor i fro Morgannwg gymryd rhan y yn Fargen Ddinesig, ond heb gyfyngu unrhyw un o’r buddion yr ydym yn benderfynol a fydd yn  gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i breswylwyr a busnesau ym Mro Morgannwg.

 

"Rydym wedi gwrthsefyll y demtasiwn i feddwl am y tymor byr wrth neilltuo arian yn y gyllideb ac wedi blaenoriaethu cael gwerth i breswylwyr bro Morgannwg, tra ar yr un pryd yn cyflawni ein amcanion datblygu economaidd strategol yn y modd mwyaf proffesiynol.”

 

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys rhaglen fuddsoddi o £1.229 biliwn wedi ei wasgaru dros ardal deg awdurdod lleol, gan gynnwys £734m ar gyfer creu cynllun Metro De-ddwyrain Cymru.

 

Y gost a amcangyfrifwyd i Fro Morgannwg, gan gynnwys unrhyw fenthyg ac ad-dalu oedd £17.9 miliwn.