Cost of Living Support Icon

Cwblhau cynllun tai Brecon Court ar ol digwyddiad ymgynghori

21 Mawrth 2017 

View 2

Mae’r manylion olaf yn cael eu rhoi ar gynigion i ddatblygu tai cyngor newydd yn y Fro ar ôl digwyddiad ymgynghori a gynhaliwyd yn y Barri yn gynharach fis yma.

 

Bydd ailddatblygu hen safle tai gwarchod Brecon Court yn cynnig tai pwrpasol i’r bobl sydd eu hangen fwyaf. 

 

Bydd y cynigion yn cynnwys codi naw tŷ dwy ystafell wely, pedwar tŷ teulu tair ystafell wely, a phymtheg fflat un ystafell wely i bobl hŷn.

 

Caiff pob un o’r cartrefi newydd eu codi'n unol â safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer tai cymdeithasol. 

View 3

I helpu â dyluniad terfynol y cartrefi gofynnwyd i drigolion lleol ddod i ymgynghoriad ym Mharc Jenner ar 8 Mawrth.

 

Dywedodd llefarydd ar ran tîm tai’r Cyngor: “Roedd y sawl a ddaeth yn gyffredinol gefnogol o’r cynllun ond codwyd rhai pryderon am barcio yn ystod digwyddiadau yn y stadiwm.

 

"O gofio hyn, byddwn bellach yn edrych ar gynllun diwygiedig y datblygiad i gynnig mwy o lefydd parcio.

"Rydym hefyd yn ystyried dynodi un fflat at ddefnydd cymunedol i gynnig lle cymunedol i drigolion hŷn.

 

View 4

"Bwriadwn gynnal digwyddiad ymgynghori pellach yn nes ymlaen eleni lle byddwn, gobeithio, yn gallu cyflwyno’r cynlluniau terfynol i’r cynllun.”

Dechreuodd gwaith i ddymchwel hen dai gwarchod Brecon Court ym mis Chwefror a dylai ddod i ben erbyn diwedd y Gwanwyn.