Cost of Living Support Icon

Newidiadau i Wasanaethau Bws Bro Morgannwg 88, 90, 100 a B3 o fis Ebrill 2017

 

13 Mawrth 2017

 

bigstock-Bus-Lane-5238568Bydd y newidiadau canlynol ar waith o ddydd Sul 2 Ebrill 2017 yn dilyn tendr diweddar gan Gyngor Bro Morgannwg ar gyfer gwasanaethau bws lleol a gefnogir:  

  • Darperir Gwasanaeth 88 (Y Barri – Penarth) yn hytrach gan Easyway (Ffôn: 01656 655655) o ddydd Llun 3 Ebrill 2017 ar sail yr amserlen bresennol.
  • Darperir Gwasanaeth 90 (Y Barri – Croes Cwrlwys M&S/Tesco) yn hytrach ar sail masnachol (h.y. ddim yn unol â Chontract i Gyngor Bro Morgannwg) gan Harton Coaches (Ffôn: 01446 439749) o ddydd Llun 3 Ebrill 2017. Mae Harton Coaches wedi diwygio’r amserlen bresennol ychydig i gynnwys Asda wrth Lannau’r Barri.
  • Darperir Gwasanaeth 100 (Gwasanaeth dydd Sul lleol y Barri) yn hytrach gan Fws Caerdydd (Ffôn: 029 20 66644) o ddydd Sul 2 Ebrill 2017 ar sail yr amserlen bresennol.
  • Darperir Gwasanaeth B3 (gwasanaeth lleol y Barri) yn hytrach gan Easyway (Ffôn: 01656 655655) o ddydd Llun 3 Ebrill 2017. Mae’r amserlen wedi’i diwygio ychydig i ail-lwybro’r gwasanaeth o Pardoe Crescent a Neale Street ac yn hytrach bydd yn rhedeg rhwng Walker Road a Barry Road trwy Buttrills Road ar deithiau penodol.  Yn ogystal, caiff terminws (man stopio) y gwasanaeth ei symud hefyd o Borth-y-Castell i safle bws Lakeside yn y Knap, ond bydd yn parhau i wasanaethu Garden Suburb.

 

Ni fydd yr holl wasanaethau bws lleol eraill a gefnogir gan Gyngor Bro Morgannwg yn newid.  Mae gwybodaeth am amserlenni ar gael ar www.traveline.cymru (Ffôn: 0800 464 00 00).

 

Dywedodd y Cynghorydd King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Adeiladu, Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rwyf wrth fy modd y gall y Cyngor barhau i gefnogi’r gwasanaethau bws hanfodol hyn sy’n galluogi trigolion ac ymwelwyr i deithio o gwmpas ardal y Cyngor heb angen defnyddio car preifat.  Rwy’n falch iawn, yn dilyn agor Ffordd Gyswllt Glannau’r Barri, y bydd Bws Caerdydd a Harton Coaches nawr yn gwasanaethau safle newydd Asda.”