Cost of Living Support Icon

Y Cyngor yn ddiffodd y goleudau ar gyfer awr y ddaear

 

15 Mawrth 2017

 

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn diffodd y goleuadau yn y Swyddfeydd Dinesig am un awr, wrth iddo ddangos cefnogaeth i Awr y Ddaear – sef awr sy'n dathlu'r blaned yn rhyngwladol pob blwyddyn.

 

Am 8.30pm ddydd Sadwrn 25 Mawrth, bydd y Cyngor yn ymuno gyda thirnodau ledled y byd – megis y Senedd ym Mae Caerdydd, Pont Harbwr Sydney a Times Square yn Efrog Newydd – drwy ddiffodd y goleuadau yn ei bencadlys.


Bydd 2017 yn nodi pen-blwydd Awr y Ddaear yn ddeg a, thrwy gymryd rhan, mae Cyngor Bro Morgannwg yn dangos ei ymrwymiad i daclo newid yn yr hinsawdd.


Mae tua hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn cymryd rhan yn Awr y Ddaear pob blwyddyn. Drwy gymryd rhan, maent yn dangos eu bod eisiau cymryd camau i daclo newid yn yr hinsawdd nawr.

 


Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Rydym yn falch iawn o gefnogi Awr y Ddaear WWF unwaith eto eleni.

 

Mae awdurdodau lleol fel ni yn chwarae rôl fawr iawn o ran taclo newid yn yr hinsawdd a rhoi gwybodaeth i bobl amdano, felly rydym yn cefnogi’r Ymgyrch drwy ddiffodd y goleuadau yn ein swyddfeydd er mwyn dangos ein hymrwymiad i Awr y Ddaear."


Dywedodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru: “Rydym yn falch iawn bod Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi Awr y Ddaear WWF unwaith eto eleni. Bydd newid yn yr hinsawdd yn cael effaith fawr iawn ar fywydau pobl yma yng Nghymru a ledled y byd. Felly mae’n wych bod awdurdodau lleol Cymru yn cefnogi’r ymgyrch i daclo newid yn yr hinsawdd.


“Gall pawb - o unigolion a grwpiau cymunedol i ysgolion a busnesau - gofrestru ar gyfer Awr y Ddaear drwy fynd i www.wwf.org.uk/cymru ac yna ddiffodd eu goleuadau am 8.30pm ddydd Sadwrn 25 Mawrth 2017."