Cost of Living Support Icon

Oriel gelf ganolog y Barri i gynnal arddangosfa project Gypsy Maker

 

29 Mawrth 2017

 

Mae disgwyl i ‘All Fur Coat’ gan Billy Kerry a ‘Rarebit Please!’ gan Artur Conka agor yn yr Oriel Gelf Ganolog ym mis Ebrill, gyda’r ddau osodiad yn anelu i ymgysylltu cymunedau Teithwyr Sipsi Roma â’r cyhoedd.

 

Billy Kerry's 'All Fur Coat'Wedi ei hyfforddi yng Ngholeg Celf a Dylunio Chelsea, mae gwaith Kerry yn sôn am y berthynas sydd rhwng artist a deunydd, corff a gwrthrych, gydag ‘All Fur Coat’ yn herio’r rhagfarnau am sipsiwn, rolau rhywedd a chydymffurfiaeth sydd wedi ei greu a hynny trwy gyfrwng cerfluniau a chollage.


Dywedodd Kerry: “Mae wedi bod yn wych cael gweithio gyda CCDR, sydd wedi fy nghefnogi a’m harwain, tra’n gadael i mi fod yn rhydd iawn gyda fy ngwaith.”


Yn y cyfamser, mae Artur Conka yn un o’r Romani prin sydd wedi creu cofnod o’i gymuned o’r tu ôl i’r lens. Gan raddio mewn ffotograffiaeth a chreu ffilm ym mhrifysgol Derby, mae gwaith Conka wedi cofnodi sut mae bywyd un o gymunedau Romani tlotaf Slofacia wedi newid ers iddo ddirywio, ac mae wedi ei weld mewn amrywiol gyhoeddiadau rhyngwladol gan gynnwys yr Huffington Post, The Independent a Vice Magazine. 


Nod project Gypsy Maker CCDR yw ymgysylltu cymunedau Teithwyr Sipsi Roma â’r cyhoedd yn gyffredinol drwy gomisiynu darnau newydd o waith gan artistiaid o’r gymuned honno, gan ddechrau deialog rhwng cymunedau amrywiol sy’n cynyddu’r wybodaeth am grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli.


Dywedodd Tracey Harding, Rheolwr yr Oriel Gelf Ganolog a Rheolwr Datblygu Celf hefyd: “Rydym wrth ein boddau yn cael gweithio gyda CCDR, ac yn edrych ymlaen i allu cynnal arddangosfeydd Billy Kerry ac Artur Conker fel rhan o broject Gypsy Maker parhaus y sefydliad.


“Carwn wahodd y cyhoedd i ymuno â ni i gwrdd â’r artistiaid yn yr agoriad ar 01 Ebrill.”


Bydd yr agoriad yn digwydd rhwng 3.00pm-4.30pm, gyda mynediad am ddim wedi hynny o Ddydd Llun – Dydd Gwener, 9.30am – 4.30pm, am 9.30am – 3.30pm ar Dydd Sadwrn.