Cost of Living Support Icon

Chwaraewraig pêl-rwyd rhyngwladol yn cefnogi twrnamaint mewn ysgol yn y Fro

 

30 Mawrth 2017

 

Bu 180 o ddisgyblion o amrywiol ysgolion cynradd y Fro yn cystadlu mewn twrnamaint a fynychwyd gan Bethan Dyke, y chwaraewraig pêl-rwyd rhyngwladol.


Gwenfo Primary School 1stDechreuodd Miss Dyke chwarae pêl-rwyd yn wyth oed, a bu’n gwylio ar y cyrion wrth i ddisgyblion ifanc o 18 ysgol gynradd yn y Fro gystadlu am yr hawl i fynychu’r rowndiau terfynol rhanbarthol yng Nghaerdydd. 

 

Cafwyd help gan naw o ddyfarnwyr gwirfoddol o ysgolion uwchradd lleol a gwelwyd dros 50 o ornestau agos rhwng yr ysgolion lleol. 

 

O’r cychwyn cyntaf, byddai chwech o’r 18 tîm yn mynd ymlaen i gystadlu yn y rowndiau terfynol rhanbarthol ar 30 Mawrth. 

 

Gwenfô oedd yn fuddugol, gyda St David’s yn ail a Cogan yn drydydd. Y timau eraill yn y chwech oedd Tregatwg, Bro Morgannwg a Llan-gan.  

 

Trefnwyd y digwyddiad gan dîm Chwaraeon a Datblygu Chwarae Cyngor Bro Morgannwg, gydag un Swyddog Cyngor yn nodi: “Roedd hi’n wych gweld cymaint o ysgolion, a phlant, yn ymwneud â’r digwyddiad hwn, ac ystod y galluoedd fu’n cystadlu. Ymdrechodd yr holl ddisgyblion yn galed, a’r dyfarnwyr gwirfoddol. 

 

“Llongyfarchiadau i’r chwe thîm, a phob lwc yn rowndiau terfynol y rhanbarth. Gwnewch y Fro yn falch!