Cost of Living Support Icon

Cam olaf cymuned ddysgu Llanilltud ar agor i ddisgyblion

17 Mawrth 2017

Llantwit Comp opening official pic

Mae’r tair ysgol sy'n rhan o Gymuned Ddysgu Llanilltud ar agor nawr, gyda disgyblion o Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr yn symud i’w hadeiladau newydd ar ddechrau'r mis hwn, chwe mis o flaen y cynllun gwreiddiol. 

 

Mae disgyblion Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr wedi setlo’n dda yn eu hamgylchiadau newydd, ac yr wythnos hon bu i Vince Browne, y pennaeth, roi taith o amgylch yr ysgol i Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Neil Moore, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lis Burnett a'r Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Rheoliadol, Hamdden a Gweladwy er mwyn amlygu rhai o'i huchafbwyntiau. 

 

Llantwit pupils at work

 

Mae’r ysgol wedi derbyn buddsoddiad enfawr i’w hadeiladau yn rhan o’r buddsoddiad £24.4m i’r campws. Mae'r bloc sydd newydd ei adeiladu, sy'n disodli pedwar o adeiladau hŷn, yn cynnwys teleganolfannau, stiwdio ddrama a labordai gwyddoniaeth, ac wedi'i adeiladu i'r un safon â Chymuned Ddysgu Penarth penigamp a gwblhawyd yn 2015. 

 

Bydd parthau codi a gollwng a threfniadau parcio newydd yn help i leddfu tagfeydd ar ddechrau a diwedd y dydd. 

 

Ynghyd â’r gwaith o adeiladu’r ysgol, mae cae chwaraeon 3G sy’n addas i bob tywydd bellach ar waith, cyfleuster a fydd ar agor i breswylwyr lleol unwaith y mae wedi’i gwblhau. Mae disgwyl i’r gwaith hwn, ynghyd â gwelliannau i'r ganolfan hamdden gyferbyn sy'n cael ei defnyddio gan yr ysgol, gael ei gwblhau fis Mawrth 2018.
Dywedodd y Cyng.

Llantwit textiles class

 

Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae Cymuned Ddysgu Llanilltud yn un o’r buddsoddiadau i addysg mwyaf sylweddol a welwyd erioed yn y Fro.


“Pan gyhoeddwyd y project, gwnaethom ymrwymo i gyflawni cyfleusterau addysgol a fyddai'n arwain y sector, nid yn unig ar gyfer ein plant a phobl ifanc ond i gymuned Llanilltud Fawr yn ei chyfanrwydd. Rydym wedi cadw at ein haddewid i’r dref, ac rwy’n falch iawn o fod yma heddiw gyda'r Cynghorydd John i weld y gwahaniaeth y mae'r buddsoddiad hwn yn ei wneud i’r disgyblion dros fy hun.”


Mae campws newydd Cymuned Ddysgu Llanilltud yn cynnwys tair ysgol. Ynghyd â’r ysgol gyfun sydd wedi’i diweddaru’n ddiweddar, ymhlith yr ysgolion yn y dref mae Ysgol Dewi Sant, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyda 210 o leoedd a agorodd ei drysau yn 2015, ac Ysgol y Ddraig, ysgol gynradd cyfrwng Saesneg gyda 420 o leoedd, a agorodd fis Hydref 2016.