Cost of Living Support Icon

Mawrth 2016 Newyddion

Y Newyddion Diweddaraf o'r Cyngor  

 

Nifer gyfyngedig o gytiau traeth Ynys y Barri ar gael - 31 Mawrth 2017

Mae nifer GYFYNGEDIG o gytiau traeth mawr a bach ar Ynys y Barri ar gael i'w rhentu am flwyddyn o 10 Ebrill tan ddiwedd Mawrth 2018.  

 

Chwaraewraig pêl-rwyd rhyngwladol yn cefnogi twrnamaint mewn ysgol yn y Fro - 30 Mawrth 2017 

Bu 180 o ddisgyblion o amrywiol ysgolion cynradd y Fro yn cystadlu mewn twrnamaint a fynychwyd gan Bethan Dyke, y chwaraewraig pêl-rwyd rhyngwladol.

 

Oriel gelf ganolog y Barri i gynnal arddangosfa project Gypsy Maker - 29 Mawrth 2017 

Mae disgwyl i ‘All Fur Coat’ gan Billy Kerry a ‘Rarebit Please!’ gan Artur Conka agor yn yr Oriel Gelf Ganolog ym mis Ebrill, gyda’r ddau osodiad yn anelu i ymgysylltu cymunedau Teithwyr Sipsi Roma â’r cyhoedd.

 

Ymgais i ladrata yn Llyfrgell y Sir ar Sgwâr y Brenin - 24 Mawrth 2017 

Mae heddlu De Cymru yn dymuno siarad a nifer o ddynion yn gysylltiedig â’r ymgais i ddwyn plwm oddi ar do Llyfrgell y Sir, Sgwâr y Brenin, Y Barri. 

 

Llwybr Arfordir Cymru ger Y Rhws wedi ei wyro yn dilyn cwymp clogwyn - 24 Mawrth 2017 

Mae rhan o Lwybr Arfordir Cymru i’r dwyrain o Barc Carafanau Ffontygari wedi ei chau i’r cyhoedd yn dilyn cwymp clogwyn.

 

Brecon Court housing scheme to be finalised following consultation event - 21 Mawrth 2017

Mae’r manylion olaf yn cael eu rhoi ar gynigion i ddatblygu tai cyngor newydd yn y Fro ar ôl digwyddiad ymgynghori a gynhaliwyd yn y Barri yn gynharach fis yma. 

 

Awduron Enwog a Hwyl i'r Teulu yn Lansiad Llyfrgell Gymunedol Sain Tathan - 21 Mawrth 2017

Darlleniadau gan bump awdur plant enwog fydd y prif atyniad yn ‘lansiad mawr’ Hyb a Llyfrgell Gymunedol Sain Tathan ddydd Sadwrn 1 Ebrill 2017. 

 

Cyngor y Fro'n cael eu coroni'n Dîm y Flwyddyn mewn gwobrau llywodraeth leol - 21 Mawrth 2017

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ennill un o wobrau llywodraeth leol mwyaf mawreddog y DU.

 

Agor lôn fysus newydd ar Port Road i wella'r llwybr strategol allweddol - 17 Mawrth 2017

Mae cyffordd newydd ag arwyddion gyda lôn fysus benodol ar gyfer Port Road, Gwenfô , wedi’i hagor yn swyddogol i’r cyhoedd.

 

Cam olaf cymuned ddysgu Llanilltud ar agor i ddisgyblion - 17 Mawrth 2017

Mae’r tair ysgol sy'n rhan o Gymuned Ddysgu Llanilltud ar agor nawr, gyda disgyblion o Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr yn symud i’w hadeiladau newydd ar ddechrau'r mis hwn, chwe mis o flaen y cynllun gwreiddiol. 

 

Chwilio am lywodraethwyr ar gyfer ysgolion newydd y Barri - 17 Mawrth 2017

Ar ôl cytuno’n ffurfiol ar gynlluniau i fuddsoddi £44m i addysg uwchradd yn y Barri drwy greu dwy ysgol gyfun rhyw cymysg newydd, mae Cyngor Bro Morgannwg bellach yn bwriadu penodi cyrff llywodraethu ar gyfer yr ysgolion hyn.

 

Dau barc arall ym Mhenarth yn cael eu hadnewyddu - 17 Mawrth 2017

MAE gwaith i adnewyddu parciau Penarth yn parhau, gydag ardaloedd chwarae ar eu newydd wedd yn Sgwâr Plassey a Cwrt y Vil am agor erbyn y Pasg.

 

Dechrau cyflwyno goleuadau LED yn y Fro yn raddol - 17 Mawrth 2017

Mae Cyngor Bro Morgannwg ar fin dechrau’r broses o drawsnewid 4000 o oleuadau stryd ar draws y sir i dechnoleg LED fel rhan o fuddsoddiad £1.3 miliwn i oleuadau stryd.

 

Menter chwaraeon a chwarae Cyngor y Fro yn parhau i gael merched i ymarfer corff - 16 Mawrth 2017 

Mae sesiwn blasu dwy awr a gynhaliwyd gan dîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg wedi galluogi merched ifanc y Fro i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau sy’n seiliedig ar chwaraeon.

 

Bydd gwaith yn dechrau cyn bo hir ar gyfleusterau hamdden newydd ar gyfer Penarth a'r Barri - 15 Mawrth 2017

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dewis contractwr i wneud gwaith adnewyddu sylweddol ar y cyfleusterau yng nghanolfannau hamdden Penarth a’r Barri. 

 

Y Cyngor yn ddiffodd y goleudau ar gyfer awr y ddaear - 15 Mawrth 2017 

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn diffodd y goleuadau yn y Swyddfeydd Dinesig am un awr, wrth iddo ddangos cefnogaeth i Awr y Ddaear – sef awr sy'n dathlu'r blaned yn rhyngwladol pob blwyddyn.

 

Disgyblion ysgol iau gatholig sain helen yn arwain y fford gyda chwaraeon anabledd - 14 Mawrth 2017

Yn ddiweddar daeth Ysgol Iau Gatholig Sain Helen yn y Barri’r ysgol gyntaf ym Mro Morgannwg i ddilyn Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd Mini (DIT Mini).

 

Tîm Cymru yn cyhoeddi llwybr taith baton y frenhines gemau'r gymanwlad afordir aur Awstralia 2018 - 13 Mawrth 2017 

Heddiw, yn rhan o ddathliadau Diwrnod y Gymanwlad, lansiodd y Frenhines Daith Baton y Frenhines 2018 yn swyddogol mewn seremoni agoriadol llawn enwogion ym Mhalas Buckingham.

 

Cenhadon hawliau'r Fro yn codi ymybyddiaeth o hawliau plant - 13 Mawrth 2017 

Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi i breswylwyr ifanc y Fro a gofrestrodd ar gyfer y project Cenhadon Hawliau yn ddiweddar yng Ngholeg yr Iwerydd, Llanilltud Fawr.

 

Newidiadau i Wasanaethau Bws Bro Morgannwg 88, 90, 100 a B3 o fis Ebrill 2017 - 13 Mawrth 2017 

Bydd y newidiadau canlynol ar waith o ddydd Sul 2 Ebrill 2017 yn dilyn tendr diweddar gan Gyngor Bro Morgannwg ar gyfer gwasanaethau bws lleol a gefnogir.

 

Cyngor Bro Morgannwg yn tynnu sylw at waith a wnaed gan ofalwyr ifanc - 09 Mawrth 2017

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn tynnu sylw at y gwaith a wneir gan ofalwyr ifanc i godi ymwybyddiaeth o’r disgwyliadau sy’n cael eu gosod ar ysgwyddau unigolion yn y Sir.

 

Popty ym Mhenarth yn derbyn dirwy o fwy na £10,000 am droseddau hylendid bwyd - 08 Mawrth 2017

Mae popty ym MHENARTH wedi derbyn dirwy o fwy na £10,000 am gyflawni 36 trosedd hylendid ac mae ei berchennog wedi'i wahardd rhag rheoli busnes bwyd am 10 mlynedd, ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg ddod ag achos i’r llys.

 

Cloddwyr ahoi! Bydd llwybr parc y clogwyn yn cael ei ddiweddaru ar y thema môr-ladron - 08 Mawrth 2017 

BYDD ffrâm ddringo bron 4 metr o uchder o'r enw 'Nyth y Brain' yn rhan o Ardal Chwarae newydd Llwybr y Clogwyn, wrth i Gyngor Bro Morgannwg ddechrau ar y gwaith adnewyddu gwerth £100,000 ar y thema môr-ladron.

 

Cyngor Bro Morgannwg yn gwario £1.7 milwn ar adnewyddu tai - 06 Mawrth 2017 

Mae rhesi o fyngalos yn cael eu diweddaru gan Gyngor Bro Morgannwg fel rhan o gynllun adnewyddu gwerth £1.7 miliwn.