Cost of Living Support Icon

Agor lôn fysus newydd ar Port Road i wella'r llwybr strategol allweddol

 

17 Mawrth 2017

 Cllr. King at new bus lane on Port Road, Wenvoe

 

Mae cyffordd newydd ag arwyddion gyda lôn fysus benodol ar gyfer Port Road, Gwenfô , wedi’i hagor yn swyddogol i’r cyhoedd.

 

Cyflawnwyd trwy bartneriaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Bro Morgannwg a Bellway Homes, nod y cynllun yw gwella cyfleusterau beicio a cherdded ar hyd rhan ogleddol Port Road, ac annog mwy o bobl i gerdded a beicio ar hyd y coridor hwn. 

 

Mae'r lôn fysus Port Road newydd yn cwblhau'r gwaith cyfredol sy'n gysylltiedig â Metro De Cymru ar y llwybr allweddol hwn, ac, fel y dywed Gareth Stevens, Rheolwr Masnachol Bysus Caerdydd, "Y gobaith yw y bydd yn cynnig amseroedd teithio cyflymach rhwng y Barri a Llanilltud Fawr." 

 

A dywedodd Kevyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr New Adventure Travel:  “Bydd y lôn fysus newydd ac arwyddion traffig newydd yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth dibynadwy gydag amseroedd teithio cyson a fydd yn diwallu disgwyliadau teithwyr.” 

 

Cafodd y gwaith adeiladu ar gyfer y project ei wneud gan Walters Construction a’i ariannu gan Bellway Homes a Llywodraeth Cymru trwy eu rhaglen Metro. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Adeiladu, Priffyrdd a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Bro Morgannwg: “Rwy'n falch iawn gyda'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud yng Ngwenfô: bydd y gyffordd arwyddion newydd nid yn unig yn cynnig gwelliannau i'r rheiny sy’n teithio yn y car, ond bydd hefyd yn gwasanaethu’r rheiny sy’n beicio a cherdded. 

 

“Rydym wedi ymrwymo’n barhaus i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth ledled Bro Morgannwg – fel y dangosir gan y cynllun £500,000 a gwblhawyd yn ddiweddar i ddarparu’r gyffordd newydd yn Cross Common Road – a’r gobaith yw y bydd y lôn fysus newydd yn Port Road yn borth arwyddocaol yn y dyfodol."