Cost of Living Support Icon

Dechrau cyflwyno goleuadau LED yn y Fro yn raddol

17 Mawrth 2017

Mae Cyngor Bro Morgannwg ar fin dechrau’r broses o drawsnewid 4000 o oleuadau stryd ar draws y sir i dechnoleg LED fel rhan o fuddsoddiad £1.3 miliwn i oleuadau stryd. 

 

LED Bulb 2

Bydd y cyflwyno graddol, a fydd yn y pen draw yn cynnwys pob stryd breswyl am ddechrau yn yr ychydig wythnosau nesaf. Caiff ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn hon. 


Buddsoddi mewn llusernau LED ar gyfer goleuadau ‘safonol’ mewn strydoedd preswyl yw cam diweddaraf strategaeth goleuadau stryd ddiweddaraf yr awdurdod lleol a bydd yn dod â rhagor o arbedion ynni ac yn lleihau allyriadau carbon deuocsid ar gyfer y Fro. 


Pan gânt eu gosod, bydd y llusernau LED wedi’u heithrio o oleuo am ran o’r noson ac felly byddant yn aros ymlaen drwy gydol y nos.


Penarth fydd yr ardal gyntaf i dderbyn goleuadau LED a bydd y cyflwyno graddol yn symud tua’r gorllewin ar draws y Fro. 


Bydd manylion y rhaglen gosod cyn bod y gosod yn dechrau.  


Dywedodd y Cyng. Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Adeiladu, Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rwy’n falch o gyhoeddi'r buddsoddiad sylweddol hwn gan y Cyngor mewn goleuadau i strydoedd preswyl a fydd yn lleihau costau ynni ac allyriadau carbon y Cyngor".


Bydd cam arall i drawsnewid llusernau ‘ansafonol' i LED yn dechrau'n hwyrach yn 2017.