Cost of Living Support Icon

Disgyblion ysgol iau gatholig sain helen yn arwain y fford gyda chwaraeon anabledd

 

14 Mawrth 2017

 

 Simon Jones at St. Helens RC Junior School. DIT training

 

 

Yn ddiweddar daeth Ysgol Iau Gatholig Sain Helen yn y Barri’r ysgol gyntaf ym Mro Morgannwg i ddilyn Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd Mini (DIT Mini).

 

Treuliodd bob un o’r 176 disgybl yn yr ysgol wers yn dysgu sut i gynnwys pobl anabl mewn gweithgareddau chwaraeon, a sut i addasu gemau i gynnwys pawb. 


Crëwyd DIT Mini gan Chwaraeon Anabledd Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth o chwaraeon anabledd, a dangos sut y gall ffrindiau anabl gael eu cynnwys mewn gweithgareddau i ddisgyblion yn yr ysgol a’r tu allan iddi. 


Cafodd pob un o’r disgyblion yn yr ysgolion hyfforddiant i gwblhau’r cwrs.


Roedd yr hyfforddiant yn delio â chanfyddiadau o bobl anabl mewn chwaraeon, pa derminoleg sy’n gywir ac yn briodol, a pha addasiadau y gellir eu gwneud i wella cynhwysiant.


Mae DIT Mini yn cysylltu â rhaglen Llythrennedd Corfforol Chwaraeon Cymru sy'n nodi y dylai fod gan bawb gatalog o sgiliau, ynghyd â’r hyder a’r cymhelliant i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol. 


Arweiniwyd yr hyfforddiant gan Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru Cyngor Bro Morgannwg, Simon Jones, a ddywedodd:  “Roeddwn yn bles iawn gyda’r ffordd y mabwysiadodd yr ysgol y syniad o hyfforddiant cynhwysiant anabledd i’w disgyblion, a pha mor awyddus oedd y disgyblion i ddefnyddio’r wybodaeth a gawsant yn eu bywydau bob dydd.”


Dywedodd y Cyng. Gwyn John, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gweladwy, Hamdden a Gwasanaethau Rheoliadol: “Mae gennym hanes gwych o gynnig mentrau sy’n cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon ledled y Fro, ac mae’n dda clywed bod ysgol iau leol yn cefnogi hyrwyddo chwaraeon anabledd.


“Y gobaith yw y bydd y sesiwn hyfforddiant hon, a rhai yn y dyfodol, yn codi ymwybyddiaeth o chwaraeon anabledd ac yn galluogi mwy o drigolion anabl i gymryd rhan mewn chwaraeon.”


Caiff y cwrs ei gynnig i nifer o ysgolion cynradd ledled y Fro o fis Ebrill ymlaen.


I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Simon Jones, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru ar sljones@valeofglamorgan.gov.uk.