Cost of Living Support Icon

Dau barc arall ym Mhenarth yn cael eu hadnewyddu

17 Mawrth 2017

MAE gwaith i adnewyddu parciau Penarth yn parhau, gydag ardaloedd chwarae ar eu newydd wedd yn Sgwâr Plassey a Cwrt y Vil am agor erbyn y Pasg.

 

Neilltuwyd £600,000 i wella parciau Gogledd Penarth mewn cynllun fydd hefyd yn cynnwys gwella ardal chwarae Paget Road, parc sglefrio Tir Hamdden Cogan a Pharc Dingle. Mae gwaith ychwanegol i adnewyddu ardal chwarae Llwybr Y Clogwyn hefyd yn mynd rhagddo.

 

image002Mae cynhwysiant wedi bod yn ffactor pwysig wrth ddylunio’r ardaloedd chwarae newydd sy’n golygu y gall plant o bob gallu eu mwynhau.

 

Yn Sgwâr Plassey, mae'r gatiau'n hunan-gloi i'w gwneud yn hawdd mynd i mewn ac allan ac nid oes newid mawr yng ngwastadedd yr ardal chwarae.

 

Tra bod argymhellion yn nodi y dylai ardal chwarae gynnwys dau ddarn o offer cynhwysol, mae wyth yn y lleoliad hwn.

 

Yn eu plith mae cylchfan y gall cadeiriau olwyn ei defnyddio, a ychwanegwyd ers y dyluniad gwreiddiol.

 

Bydd Parc Cwrt Y Vil hefyd yn cynnwys cylchfan debyg, a siglen sedd wastad a gât lydan, ymhlith pethau eraill.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morga

nnwg ac Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg: “Mae’n wych bod gwaith ar y ddw

image001

y ardal chwarae hyn bron â’i gwblhau. R

oedd

 adnewyddu parciau a mannau gwyrdd yn un o flaenoriaethau’r Cyngor, gyd

a saith ym Mhenarth yn cael budd o’r gwaith. Mae hon y rhan o raglen barhaus o fuddsoddi mewn cyfleusterau o’r fath yn y Fro.

 

“Y nod yw cynnig ardaloedd modern, diogel a chyffrous i blant eu mwynhau. Ystyriodd y dylunwyr amrywiaeth o bethau wrth lunio’r cynigion, gyda chynhwysiant yn ffactor pwysig. Rydym wedi bod 

yn awyddus i sicrhau y gall plant o bob gallu chwarae gyda’i gilydd yn ein parciau. Dyma waith cyffrous iawn, a gobeithiwn y bydd yr ardaloedd chwarae 

gwell yn ased i Benarth.”