Cost of Living Support Icon

Cyngor y Fro’n cael eu coroni’n Dîm y Flwyddyn mewn gwobrau llywodraeth leol

Leadership Cafe celebrates

21 Mawrth 2017

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ennill un o wobrau llywodraeth leol mwyaf mawreddog y DU. 

 

Cafodd y tîm y tu cefn i gynllun Caffi Arweinyddiaeth arloesol y Cyngor eu coroni’n ‘Dîm y Flwyddyn’ yng ngwobrau’r Cronicl Llywodraeth Leol yn Llundain, y seremoni sy’n cydnabod y gorau oll mewn llywodraeth leol yn y DU. 

 

Dywedodd Rob Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr: “Dyma newyddion gwych, a moment falch iawn i’r Cyngor. Mae'r Caffi Arweinyddiaeth wedi'i gydnabod yn flaenorol fel enghraifft o arfer da gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac mae wedi’i ganmol ymhellach nawr. 

 

LGC Awards

“Fodd bynnag, nid dim ond y grŵp hwn o gydweithwyr sy’n gosod safonau newydd o ran cyflawni yn y Fro. Mae timau ym mhob rhan o’r sefydliad yn gweithio’n galetach nag erioed i wella’r gwasanaethau rydyn ni wedi’u darparu ar gyfer y Fro, a dylai ein holl gydweithwyr fod yn falch o hyn.”

 

Mae’r project Caffi Arweinyddiaeth yn helpu staff sy’n gweithio ar bob lefel yn y Cyngor i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio’n fwy cynhyrchiol a datblygu’n broffesiynol. Mae pawb sy’n cymryd rhan yn gwneud hynny yn eu hamser sbâr y tu allan i oriau gwaith.

 

Roedd Cyngor Bro Morgannwg yn un o ddim ond 19 enillydd o blith dros 600 o geisiadau ar gyfer y gwobrau mawreddog gan awdurdodau lleol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.

 

Roedd y wobr yn gydnabyddiaeth o waith caled ac ymrwymiad y tîm rheoli sydd wedi bod yn cydlynu’r fenter ers 2015. Mae’r tîm yn cynnwys cydweithwyr yn gweithio ar draws y Cyngor.