Cost of Living Support Icon

Menter chwaraeon a chwarae Cyngor y Fro yn parhau i gael merched i ymarfer corff

 

16 Mawrth 2017

 

Mae sesiwn blasu dwy awr a gynhaliwyd gan dîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg wedi galluogi merched ifanc y Fro i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau sy’n seiliedig ar chwaraeon.


Cllr. John street dance. Girls on the Move.Nod y sesiwn, a ddigwyddodd yng Nghanolfan Hamdden Llanilltud Fawr, oedd galluogi merched i benderfynu ar ba weithgaredd yr hoffent ddychwelyd ato yn y dyfodol trwy eu cyflwyno i fadminton, dawnsio stryd, pêl-droed neu rygbi cyffwrdd.

 

Bydd yr ymateb a’r adborth yn sgil hynny yn arwain cynllunio'r tîm Chwaraeon a Chwarae o ddigwyddiadau yn y dyfodol er mwyn cadw ymgysylltiad merched.

 

Roedd y digwyddiad anffurfiol a chymdeithasol yn Llanilltud Fawr a oedd yn cynnwys cerddoriaeth yn ffurfio rhan o fenter Merched yn Ymarfer Corff y Cyngor - sy'n ffurfio rhan o'r cynllun.

 

Pobl Ifanc Actif - ac mae ynglŷn â sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn actif, yn fwy aml, trwy eu hannog i wneud ymarfer corff yn fwy aml yn ystod yr wythnos.

 

Mae'r cynllun wedi ymgysylltu â dros 160 o ferched ers dechrau y llynedd, gyda Glowminton yn Y Barri a grŵp rhedeg ym Mhenarth sy’n annog mwy o ferched i gymryd rhan mewn badminton a rhedeg yn eu trefn.

 

Mae Glowminton, yn benodol, yn amlygu’r thema o hwyl a rhyngweithio sy’n rhedeg trwy bob gweithgaredd Merched yn Ymarfer Corff: ar ôl clywed bod trigolion ifanc yn dymuno cael gweithgareddau cymdeithasol sy’n cynnwys cerddoriaeth, mae glowminton - a gynhelir yng Nghanolfan Hamdden Holm View yn Y Barri - yn defnyddio gwennoliaid a rhwydi uwch-fioled, yn ogystal â bandiau arddwrn neon a phaent corff  wrth chwarae badminton gyda cherddoriaeth yn chwarae.

 

Dywedodd y Cyng. Gwyn John, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gweladwy a Hamdden a Gwasanaeth Rheoliadol: “Sefydlwyd cynllun Merched yn Ymarfer Corff gyda’r nod o annog mwy o ferched i ddod yn fwy actif, yn fwy aml. 

 

“Rydym wedi gweld canlyniadau calonogol hyd yn hyn, a chynnydd o ran cyfranogi, oherwydd, yn rhannol, gynllunio a arweinir ein tîm Chwarae a Chwaraeon. 

 

“Trwy wrando ar yr hyn mae ein trigolion ifanc yn ei ddymuno, rydym wedi llwyddo i gynllunio digwyddiadau hwyliog a cynhwysol, sy’n parhau i ymgysylltu merched ledled Bro Morgannwg.”  

 

Nesaf, mae’r tîm Chwaraeon a Chwarae, mewn partneriaeth â Beicio Cymru a Breeze Rides, ar fin cynnal grŵp beicio i Ferched a Menywod ddydd Sadwrn 08 Ebrill. 

 

Mae’r grŵp, a fydd yn cyfarfod ym Mharc Cosmeston rhwng 10am a 12pm ar gyfer dechreuwyr deg oed ac yn hŷn. Bydd hyfforddiant anffurfiol yn digwydd cyn y daith o gwmpas Cosmeston, fel bod y cyfranogwyr yn dod yn fwy hyderus ar eu beiciau.  

 

Mae gofyn i'r rhai sy’n cymryd rhan fynd â’u beiciau a’u helmedau eu hunain.I gael rhagor o wybodaeth am y grŵp beicio, ac i gadw lle, ffoniwch Rachel Shepherd ar 01446 704808, neu e-bostiwch rlshepherd@valeofglamorgan.gov.uk

 

Gellir dod o hyd i’r  tîm Datblygu Chwarae a Chwaraeon hefyd ar Twitter @valesportsnews a Facebook valesportsplay.