Cost of Living Support Icon

Cyngor Bro Morgannwg yn gwario £1.7 milwn ar adnewyddu tai

 

06 Mawrth 2017

 

Mae rhesi o fyngalos yn cael eu diweddaru gan Gyngor Bro Morgannwg fel rhan o gynllun adnewyddu gwerth £1.7 miliwn.

 Cllr Brooks at 8 Pardoe Crescent

 

Bydd gwaith adnewyddu sylweddol yn cael ei wneud ar un deg saith o dai yn Pardoe Crescent, Coldbrook Road East, Ashgrove a Tordoff Way yn Y Barri. Bydd bob un o’r tai yn cael eu hail-wampio ac eithrio’r sylfeini concrit. 


Roedd y byngalos wedi’u gwneud o ffrâm bren a chaenen alwminiwm. Bellach mae ganddyn nhw waliau dwbl concrit a ffenestri, drysau, toeau, ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd. Cafodd peth gwaith ei wneud hefyd i dirlunio’r gerddi. 


Mae’r gwaith wedi gorffen ar bump o’r byngalos, mae 70% o’r gwaith wedi’i wneud ar bedwar arall, a’r gwaith i ddechrau dros y misoedd nesaf ar y gweddill. 


Rhif 8 Pardoe Crescent yw’r fflat cyntaf i gael ei chwblhau, a’r gwaith adnewyddu’n costio tua £90,000. Bydd cyfanswm y project i gyd tua £1.7 miliwn.


Dywedodd y Cyng. Bronwen Brooks, yr Aelod Cabinet dros Dai, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Rydym wrth ein bodd yng Nghyngor Bro Morgannwg i allu gwneud cymaint o welliannau sylweddol i’r tai yma. 


“Bydd byngalos y trigolion yn cael eu trawsnewid yn dai cyffyrddus a modern fydd gobeithio yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ansawdd eu bywyd. 


“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r llety gorau posibl i denantiaid y Cyngor ac mae’r lefel o fuddsoddiad yn yr achos hwn yn brawf o hynny.”


Dywedodd Caroline Mason o 8 Pardoe Crescent: “Mae’n gwbl wych. Rydym wedi byw yma ers 21 o flynyddoedd a bellach mae gennym dŷ llawer gwell.  Mae’n llawer cynhesach a dwi’n llawer hapusach.


“Mae gennym gawod am y tro cyntaf. Mae’n gant y cant yn well nag o’r blaen. Dylech chi fod wedi’i weld - roedd arfer bod slatiau metel ar draws y nenfwd ac roedd problemau gyda’r gwres canolog. 


“Mae ansawdd ein bywyd yn llawer gwell.  Mae’n llawer goleuach, mae’r ffenestri’n fwy felly mae llawer mwy o olau’n dod i mewn. Mae’r teulu cyfan yn hapus iawn. 


“Roedd pawb yn dda iawn. Cafodd y tŷ ei godi mor gyflym ac o fewn chwe mis i’r diwrnod roeddem yn ôl i mewn. Roeddwn gartref erbyn y Nadolig felly roedden ni’n hapus iawn.”