Cost of Living Support Icon

Bydd gwaith yn dechrau cyn bo hir ar gyfleusterau hamdden newydd ar gyfer Penarth a'r Barri 

15 Mawrth 2017

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dewis contractwr i wneud gwaith adnewyddu sylweddol ar y cyfleusterau yng nghanolfannau hamdden Penarth a’r Barri. 

 Reviewing plans at leisure centre

Mae £1.9m wedi’i neilltuo gan y Cyngor i adnewyddu'r ystafelloedd newid gwlyb a sych yn y ddau adeilad.  Nawr yn dilyn ymgynghoriad â chwsmeriaid, gweithredwr y ganolfan hamdden Legacy Leisure, a’r cyhoedd ehangach mae ymgynghorydd a ffefrir wedi’i ddewis i gwblhau’r dyluniadau a rheoli’r cynllun. 

 

Dywedodd y Cyng. Gwyn John, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gweladwy, Hamdden a Gwasanaethau Rheoliadol: “Bydd y gwaith yn cynnwys newid yr ystafelloedd newid cyfredol yn bentref newid modern, gyda chuddyglau unigol yn ogystal ag ystafelloedd newid i deuluoedd a grwpiau.  

 

"Cânt eu hadeiladu i safonau Chwaraeon Cymru a byddant yn llawer goleuach ac yn cynnwys systemau awyru gwell." 


Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau’r haf hwn a dylai gael ei gwblhau erbyn diwedd 2018.  Bydd y canolfannau hamdden yn parhau i fod ar agor drwy gydol y cyfnod hwn.