Top

Brig

Mae Beats Eats and Treats yn Dychwelyd, a bydd yn fwy ac yn well nag o’r blaen! 


12 Mai 2017

 

Mae’r ŵyl Beats, Eats and Treats a welodd mwy na 5,000 o bobl yn heidio i Ynys y Barri yr haf diwethaf yn dychwelyd ar 24 a 25 Mehefin 2017. 

 

Bydd y digwyddiad am ddim yn cynnwys arddangosiadau coginio gan ben-cogyddion penigamp lleol yn ogystal ag ystod o stondinau bwyd, marchnad ffermwyr ac amrywiaeth o adloniant ar gyfer y teulu cyfan. 

 

Mae'r gwaith o baratoi'r rhaglen yn dal i fynd rhagddo ond bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cyhoeddi mwy o wybodaeth bob wythnos o 13 Mai ymlaen.

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bro Morgannwg: “Roedd gŵyl Beats, Eats and Treats y llynedd yn llwyddiant ysgubol ac rydym wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau y bydd yr ŵyl eleni hyd yn oed yn fwy ac yn well. Bydd mwy o arddangosiadau, detholiad ehangach o stondinau, a bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys y gerddi promenâd penigamp er mwyn galluogi hyd yn oed mwy o bobl i fanteisio ar y danteithion blasus fydd ar gael yn y digwyddiad." 

 

Bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys stondinau gan ein gefeilldrefi sef Fécamp, Mouscron a Rheinfelden. 

 

Ewch i www.bromorgannwg.gov.uk/beats i gael rhagor o wybodaeth. 

 

Mae'r lluniau isod o ddigwyddiad blwyddyn ddiwethaf.

 

 

Rhannu Hoffi