Cost of Living Support Icon

Digwyddiad creadigrwyddiad ar gyfer pobl 50+

 

10 Mai 2017

 

Mae fforwm Strategaeth 50+ Cyngor Bro Morgannwg i gynnal digwyddiad yn Llyfrgell y Barri i hybu creadigrwydd. 

 

Guitar lessons at forum eventMae Digwyddiad Gŵyl y Gwanwyn Fforwm Strategaeth 50+ y Fro, a fydd rhwng 10.00am a 3.00pm ar 16 Mai, yn rhoi’r cyfle i drigolion y Fro sy’n 50+ i roi cynnig ar ystod o gelf a chrefft.


Bydd y digwyddiad am ddim yn cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau i’r rhai hynny a fydd yn mynychu, gan gynnwys LIFT (Hyfforddiant Ymarferol Effaith Isel), gwneud gemwaith, sesiwn canu mewn grŵp a grŵp darllen a rennir.


Mae dosbarthiadau creadigol eraill yn cynnwys darlunio anifeiliaid i ddechreuwyr, gweithdy garddio, a bar dylunio ewin a dosbarth tylino’r pen Indiaidd.

 
Disgwylir i Hyrwyddwyr Digidol fynd hefyd, a rhoi cyngor i ymwelwyr ar sut i ddefnyddio eu dyfeisiau digidol. Yn ogystal bydd cerbyd symudol Coleg Caerdydd a’r Fro yn Sgwâr y Brenin. 


Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â John Porter, Cydlynydd y Strategaeth Pobl Hŷn ar gyfer Cyngor Bro Morgannwg, ar 01446 709779 neu jporter@valeofglamorgan.gov.uk.