Cost of Living Support Icon

GVSCychwyn ar Daith Wirfoddoli Newydd 

 

Dydd Llun 12 Mehefin 2017

 

Yn dilyn llwyddiant aruthrol y Ffair Wirfoddoli Fawr yn gynharach eleni, bydd Gwasanaethau Gwirfoddoli’r Fro (GVS) yn cynnal cyfres o Ffeiriau Gwirfoddoli Bach mewn lleoliadau amrywiol ledled Bro Morgannwg. 

 

The first mini Volunteering Fayre will be held:

  • Neuadd Leiaf y Bont-faen – Dydd Iau 22 Mehefin, rhwng 3.00pm a 6.00pm

 

Cynhelir ffeiriau ychwanegol yn hwyrach yn y flwyddyn yn Llanilltud Fawr a Phenarth.

 

Dewch i’r Ffeiriau i gychwyn ar daith newydd fel gwirfoddolwr gan agor byd o gyfleoedd.

 

Byddwch yn gallu sgwrsio’n uniongyrchol â darparwyr gwirfoddoli lleol gan ddod o hyd i’r cyfle iawn i chi. Mae gwirfoddoli yn ffordd dda o ddod i adnabod eich cymuned yn well, cwrdd â phobl newydd ac ennill profiadau newydd. Byddwch hefyd yn gwella eich cyfle o ddod o hyd i waith.

 

Dewch ar y diwrnod a chewch chi groeso mawr.