Cost of Living Support Icon

Ysgol gyfun Llanilltud Fawr yn cael adroddiad arolwg gwych

 

16 Mai 2017

 

Llwyddodd Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr i ragori yn ystod arolwg diweddar, yn cael sgorau da ym mhob categori.

 

Llantwit Major Comprehensive School pupilsCyrhaeddodd yr ysgol y safon mewn meysydd fel perfformiad, safonau ac addysgu. 
Dywedodd y Cyd-bennaeth Vince Browne: “Rwyf i a fy chyd-bennaeth Mrs Fiona Greville yn falch iawn gyda’r adroddiad a oedd yn cydnabod y safonau uchel a gyflawnir gan fyfyrwyr yn yr ysgol a’r cynnydd helaeth a wnaed ers yr arolwg diwethaf. 


“Mae hwn yn adroddiad cadarnhaol iawn a gyda’r adeiladau ysgol newydd gwych yn agor, bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn gyfnod cyffrous a llwyddiannus iawn i’r ysgol.” 


Dechreuodd disgyblion yn Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr ddefnyddio adeiladau newydd ym mis Mawrth, ar ôl cwblhau gwaith chwe mis cyn amser.


Mae’r ysgol wedi derbyn buddsoddiad enfawr i’w hadeiladau yn rhan o’r buddsoddiad £24.4 i’r campws.


Mae'r bloc sydd newydd ei adeiladu, sy'n disodli pedwar o adeiladau hŷn, yn cynnwys ystafelloedd TG, stiwdio ddrama a labordai gwyddoniaeth, ac wedi'i adeiladu i'r un safon â Chymuned Ddysgu Penarth penigamp a gwblhawyd yn 2015.


Bydd parthau codi a gollwng a threfniadau parcio newydd yn help i leddfu tagfeydd ar ddechrau a diwedd y dydd.


Mae cae chwarae 3G pob tywydd newydd hefyd yn rhan o’r project, cyfleuster a fydd ar agor i breswylwyr lleol ar ôl iddo gael ei gwblhau flwyddyn nesaf.  Mae campws newydd Cymuned Ddysgu Llanilltud yn cynnwys tair ysgol. Ynghyd â’r ysgol gyfun sydd wedi’i diweddaru’n ddiweddar, ymhlith yr ysgolion yn y dref mae Ysgol Dewi Sant, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyda 210 o leoedd a agorodd ei drysau yn 2015, ac Ysgol y Ddraig, ysgol gynradd cyfrwng Saesneg gyda 420 o leoedd, a agorodd fis Hydref 2016.