Cost of Living Support Icon

Mai 2017 Newyddion


Y Newyddion Diweddaraf o'r Cyngor

 

Diwrnod mabolgampau Ysgol y Deri yn dangos esiampl o ran chwaraeon anabledd - 31 Mai 2017 

Aeth dros 100 o ddisgyblion i Ganolfan Hamdden Penarth ar gyfer Diwrnod Mabolgampau Ysgol Gynradd Ysgol y Deri yn ddiweddar, gyda sawl un o ysgolion y Fro yn cael eu cynrychioli yn y digwyddiad chwaraeon anabledd.

 

Parc Gwledig Porthceri’n lansio ap realiti estynedig newydd - 25 Mai 2017

Mae bellach yn bosibl i ymwelwyr â Pharc Gwledig Porthceri gamu yn ôl i’r gorffennol a dysgu am gyfnodau eiconig yng ngorffennol yr ardal diolch i ap ffôn symudol newydd. 

 

Cadarnhau arweinyddiaeth wleidyddol Cyngor Bro Morgannwg - 25 Mai 2017

Mae’r Cyng. John Thomas wedi cael ei benodi’n Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg yn dilyn pleidlais yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 24 Mai.

 

Cefnogaeth Gan Lee Selby I Ddigwyddiad Diogelwch - 23 Mai 2017

Bydd y pencampwr PAFFIO Lee Selby yn cefnogi Digwyddiad Hwyl i'r Teulu Ymwybyddiaeth Diogelwch yn y Barri'n ddiweddarach y mis hwn.

 

Y genhedlaeth nesaf o hyfforddwyr chwaraeon yn Ysgol Y Deri? - 23 Mai 2017 

Cwblhaodd CHWE disgybl o Ysgol y Deri gwrs Trefnwyr Chwaraeon AYP (Pobl Ifanc Egnïol) yn ddiweddar, gan roi iddynt y sgiliau i fynd ymlaen ac arwain eu sesiynau chwaraeon eu hunain yn y dyfodol.

 

Gweithwyr y Fro yn gwneud eu rhan ar ddiwrnod rhoi ac ennill - 22 Mai 2017 

Gwnaeth nifer o weithwyr Cyngor Bro Morgannwg 120 o oriau o waith gwirfoddol, wrth gyfrannu diwrnod o'u hamser i gefnogi projectau lleol.

 

Ysgol gyfun Llanilltud Fawr yn cael adroddiad arolwg gwych - 16 Mai 2017 

Llwyddodd Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr i ragori yn ystod arolwg diweddar, yn cael sgorau da ym mhob categori. 

  

Mae Beats Eats and Treats yn dychwelyd, a bydd yn fwy ac yn well nag o’r blaen - 12 Mai 2017

Mae’r ŵyl Beats, Eats and Treats a welodd mwy na 5,000 o bobl yn heidio i Ynys y Barri yr haf diwethaf yn dychwelyd ar 24 a 25 Mehefin 2017. 

 

Gallai sefydliadau chwaraeon y Fro fod yn gymwys i gael rhan o’r Gist Gymunedol - 12 Mai 2017 

Gallai sefydliadau chwaraeon a gweithgareddau corfforol ledled Bro Morgannwg fod yn gymwys i gael cyfanswm o £86,251 o gyllid.

 

Digwyddiad creadigrwyddiad ar gyfer pobl 50+ - 10 Mai 2017 

Mae fforwm Strategaeth 50+ Cyngor Bro Morgannwg i gynnal digwyddiad yn Llyfrgell y Barri i hybu creadigrwydd ymhlith yr henoed.

 

Annog trigolion y Fro i Bleidleisio yn etholiad cyffredinol 2017 y DU - 10 Mai 2017 

Ym mis Mehefin, caiff trigolion y Fro y cyfle i ethol Aelod o Senedd y DU i’w cynrychioli yn eu hetholaeth.

 

Mission Impossible yn dangos eu bod yn anorchfygol ar ôl llwyddiant diguro yng nghynghrair Boccia - 09 Mai 2017 

Mae Mission Impossible, tîm Boccia Bro Morgannwg, wedi cael cyfnod aruthrol o lwyddiant sydd wedi arwain at ennill Cynghrair Boccia y Fro 2017.

 

Gwyriadau bysus y Fro - 03 Mai 2017

GAN fod Eagleswell Road ar gau dros dro wrth y gyffordd â Boverton Road yn Nhrebefered, bydd gwyriadau i rai gwasanaethau bws yn y Fro.

 

Partneriaeth Bro diogelach yn darparu cynllun arloesol i helpu dioddefwyr camdriniaeth ddomestig - 03 Mai 2017 

Mae cynllun arloesol gan Bartneriaeth Bro Diogelach sy’n helpu dioddefwyr camdriniaeth ddomestig i aros yn eu cartrefi eu hunain wedi bod yn llwyddiannus.

 

Partneriaeth Bro ddiogelach yn bwriadu mynd i'r afael â chamddefyddio beiciau cwad - 03 Mai 2017 

Mae’r Bartneriaeth Bro Ddiogelach yn bwriadu mynd i’r afael â defnydd gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon o feiciau cwad a cherbydau eraill tebyg yn y Fro.

 

Clybiau criced yn y Fro yn Cymryd rhan mewn ymgyrch cyfranogi ledled y genedl - 02 Mai 2017 

Mae saith clwb criced o bob rhan o Fro Morgannwg ar fin cymryd rhan mewn menter arbennig sydd â’r nod o gynyddu'r niferoedd sy’n cyfranogi mewn criced.