Cost of Living Support Icon

Mission Impossible yn dangos eu bod yn anorchfygol ar ôl llwyddiant diguro yng nghynghrair Boccia

 

09 Mai 2017

 

Mae Mission Impossible, tîm Boccia Bro Morgannwg, wedi cael cyfnod aruthrol o lwyddiant sydd wedi arwain at ennill Cynghrair Boccia y Fro 2017.

 

Vale Boccia League 2017Gan ennill pob gêm y chwaraeon nhw ynddi, ac osgoi hunanddinistr yn broses, enillodd Mission Impossible y gynghrair a ddechreuodd ym mis Chwefror. 


Cymerodd sawl tîm Boccia ran yn y gynghrair, a redir gan dîm Chwaraeon a Datblygu Chwarae Cyngor Bro Morgannwg mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau lleol, gan gynnwys: the Boccia Rollers, Canolfan Ddydd Hengoleg, Canolfan Datblygu Sgiliau Sili SCOPE, SEND Scorpions a Chanolfan Ddydd Woodlands.  

 
Yn Nghanolfan Adnoddau Hengoleg, rhannwyd y timau yn ddau grŵp, gyda’r timau gorau ym mhob is-gynghrair yn symud ymlaen i’r rownd nesaf. 


Bu Mission Impossible a SEND Scorpions yn cystadlu yn y rownd derfynol, gyda’r ail yn ennill hanner ffordd trwy’r gêm. Er hynny, chwaraeodd Mission Impossible yn gryf iawn yn yr ail hanner i gipio’r teitl mewn gêm derfynol gofiadwy. 


Roedd yn dymor go arbennig ar gyfer y tîm o Ganolfan Adnoddau Hengoleg, gan mai nhw oedd y tîm cyntaf ers 2013 i ennill pob gêm y chwaraeon nhw ynddi.

 
Yn ogystal, ar y diwrnod enillodd The Boccia Rollers Wobr Ysbryd Tim Dean Evans am eu hymagwedd rhagorol trwy'r gynghrair (roedd hyn yn cynnwys mynychu pob wythnos ac annog yr holl dimau a gymerodd ran) ac enilloedd Karen Roberts o'r Woodland Warriors Wobr Chwarae Teg Unigol Dilwyn Williams am lu o berfformiadau ysbrydol.


Camp anabledd yw Boccia lle mae chwaraewyr yn gwthio peli gyda’r nod o gael iddynt lanio mor agos â phosibl i'r bêl darged. Mae gan bob ochr chwe phêl (coch neu las), a chronnir pwyntiau yn ystod gêm i ganfod enillydd. 


Dywedodd Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru Cyngor Bro Morgannwg, Simon Jones: “Mae safon Boccia yn parhau i wella blwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae’n bleser gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth ffyrnig lle mae pob chwaraewr yn dangos llawer o chwarae teg.

   
"Diolch i bawb sy'n helpu i gefnogi'r gynghrair a'i gwneud yn llwyddiant - heboch chi, ni fyddai modd cynnal y gystadleuaeth."


Os hoffech chi fwy o wybodaeth am Chwarae Anabledd ym Mro Morgannwg, cysylltwch â Simon Jones ar 01446 704728, neu sljones@valeofglamorgan.gov.uk