Cost of Living Support Icon

Parc Gwledig Porthceri’n lansio ap realiti estynedig newydd

25 Mai 2017


Mae bellach yn bosibl i ymwelwyr â Pharc Gwledig Porthceri gamu yn ôl i’r gorffennol a dysgu am gyfnodau eiconig yng ngorffennol yr ardal diolch i ap ffôn symudol newydd. 


Ar yr ap, sydd wedi'i ddylunio gan gwmni Jam Creative Studios ac sydd ar gael ar ddyfeisiau Apple ac Android, mae modd gweld golygfeydd sydd wedi’u hanimeiddio mewn amryw fannau yn y parc, a chasglu cynnwys o'r realiti estynedig wrth gerdded. 


ARlMae modd i ymwelwyr wylio gwrach Bwthyn Cliff Wood, Ann Jenkin wrth iddi gymysgu trwythi, ac mae modd gweld sut y byddai adfeilion olaf Melin Lifio Cwmcidi wedi edrych yn wreiddiol. 


Mae modd agor cynnwys mewn pum man yn y parc, ac mewn un arall mae'n bosibl dysgu ym mha ffordd y cafodd y draphont ei hatgyfeirio drwy gwrdd â pherchennog y cwmni a gynhaliodd y gwaith, Henry Ringham.   


Mae’r ap wedi’i ariannu gan Grant Adfywio’r Barri a Grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae modd dilyn teithiau natur arno drwy gysylltu â GPS sy'n eich galluogi i gasglu planhigion ac anifeiliaid yn y realiti estynedig.


Caiff gwybodaeth am storïau a chwedlau eu datgelu yn y parthau stori GPS amrywiol sydd wedi'u gwasgaru ledled y parc, a gall plant gasglu ffeithiau am anifeiliaid wrth redeg yn y ddôl. 

 

Ar ôl i chi gasglu cymeriadau, storïau, anifeiliaid a phlanhigion y realiti estynedig, caiff y rhain eu cadw yn eich casgliad er mwyn i chi eu gweld unrhyw bryd a fynnoch.


Os byddwch am fwynhau cyffro cudd y parc ar eich ymweliad nesaf drwy'r ap, bydd angen ffôn symudol sy'n cysylltu â GPS, batri llawn a chlustffonau o bosibl.


Ar ôl lansio’r ap, dewiswch lwybr a bydd y map yn dangos eich lleoliad a lleoliad pethau i'w casglu.


Ar ôl clicio ‘Dechrau Llwybr’, bydd y daith yn cychwyn a bydd eich cynnydd wedi'i nodi ar y sgrin. 

 

AR3Mae modd defnyddio gosodiad cysgu ar ffôn symudol pan fyddwch yn cerdded i gadw pŵer y batri, a'i ddatgloi ar ôl cyrraedd parth. Bydd hysbysiad ffôn yn rhoi gwybod am hynny.

 

Mae pum panel yn y parc yn ysgogi cynnwys, a chaiff y rhain eu nodi ar y map. Pan fyddwch yn eu cyrraedd, mae modd gweld y cynnwys drwy ddal y ffôn tuag atyn nhw.  


Mewn parthau GPS wedi’u gwasgaru ar y llwybr natur, bydd gwybodaeth y mae modd ei chadw’n ymddangos am blanhigyn neu anifail, ac mae’r llwybr storïau’n dangos gwybodaeth am storïau a chwedlau. Mae chwech o’r 10 post anifeiliaid yn cynnwys delweddau Realiti Estynedig arbennig.  


Am ragor o wybodaeth, ewch i www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/enjoying/Coast-and-Countryside/Apps-and-Activities.aspx