Cost of Living Support Icon

Partneriaeth Bro ddiogelach yn bwriadu mynd i'r afael â chamddefyddio beiciau cwad

 

03 Mai 2017

 

Mae’r Bartneriaeth Bro Ddiogelach yn bwriadu mynd i’r afael â defnydd gwrthgymdeithasol ac anghyfreithlon o feiciau cwad a cherbydau eraill tebyg yn y Fro.

 

ScooterMae peiriant bach sydd ag injan fach neu fodur bach, gan gynnwys beiciau cwad, sgwteri a sgwteri Goped wedi’u dosbarthu fel peiriannau nad ydynt yn addas i’w defnyddio ar ffyrdd neu balmentydd. 


Er hynny, mae’r Bartneriaeth Bro Ddiogelach, sef sefydliad sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Bro Morgannwg, Heddlu Du Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Ymddiriedolaeth Prawf Cymru, Gwasanaethau Gwirfoddol Bro Morgannwg a Gwasanaeth Tân De Cymru, wedi derbyn nifer o gwynion o ran cerbydau o’r fath yn cael eu camddefnyddio yn y modd hwn.


Mae pryderon wedi bod ynglŷn â phlant ifanc yn eistedd ar liniau pobl wrth iddynt yrru’r beiciau. 


Mae’r ymddygiad hwn yn erbyn y gyfraith ni waeth pa mor fach yw’r beic, pa mor araf mae’n teithio na’r ffaith y gallai fod wedi’i gynllunio ar gyfer plant. 


Mae Adran 185 (1) Deddf Traffig Ffyrdd 1988 yn nodi y gall beic cwad ond gario teithwyr os ydyw wedi’i gynllunio i wneud hynny ac os oes ganddo’r nifer briodol o seddi. 


Os mai dim ond un sedd sydd gan feic cwad, mae’n drosedd i’r gyrrwr gael teithiwr ar ei lin neu y tu ôl iddo wrth iddo yrru. 


Er nad yw’n ofynnol i yrwyr na theithwyr beiciau cwad wisgo helmedau damwain, argymhellir hyn er mwyn eu diogelwch. 


Mae’r Bartneriaeth Bro Ddiogelach yn ymdrechu i wella ansawdd bywyd pobl yn y Sir, ond mae angen cymorth i wneud hynny. 


Gall trigolion gynorthwyo’r sefydliad drwy: 

 

  • Roi gwybod am ddefnydd sy’n peri niwsans neu ddefnydd anghyfreithlon o gerbydau. 
  • Cofnodi manylion am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys amseroedd, diwrnodau a lleoliadau.
  • Darparu manylion pellach, megis rhifau cofrestru, disgrifiadau o’r cerbydau dan sylw a’r bobl sy’n eu gyrru. 
  • Nodi perchnogion a gyrwyr beiciau modur, beiciau cwad a sgwteri GoPed sy’n cael eu defnyddio mewn modd anghyfrifol. 
  • Gyda gwybodaeth neu dystiolaeth ddigonol, gall y Bartneriaeth Bro Ddiogelach: 
  • Atafaelu cerbydau sy’n cael eu defnyddio mewn modd gwrthgymdeithasol 
  • Erlyn troseddwyr gan ddilyn y ddeddfwriaeth berthnasol. Dylid adrodd unrhyw bryderon yn ymwneud â’r mater hwn i’r heddlu drwy ffonio 101.