Cost of Living Support Icon

Partneriaeth Bro diogelach yn darparu cynllun arloesol i helpu dioddefwyr camdriniaeth ddomestig

 

03 Mai 2017

 

Mae cynllun arloesol gan Bartneriaeth Bro Diogelach sy’n helpu dioddefwyr camdriniaeth ddomestig i aros yn eu cartrefi eu hunain wedi bod yn llwyddiannus.

 

Safer Vale logoMae Cryfhau Targedau'n helpu i wneud cartrefi'n fwy diogel trwy osod cloeon drws arbenigol, larymau tresbaswyr ac mewn rhai achosion TCC.

 
Mae’r mesurau hyn hefyd yn rhwystro tresbaswyr, gan helpu’r dioddefwr i deimlo’n fwy cyfforddus, gan olygu, gobeithio, nad oes angen iddynt ddefnyddio llety lloches. 


Mae rhoi pen ar gamdriniaeth ddomestig yn un o’r blaenoriaethau ar gyfer y Bartneriaeth Bro Diogelach, sefydliad sy’n cynnwys cynrychiolwyr gan gynnwys Cyngor Bro Morgannwg, Heddlu De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Ymddiriedolaeth Prawf Cymru, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg a Gwasanaeth Tân De Cymru.


Mae gwasanaethau atal a chymorth amrywiol ar waith i helpu dioddefwyr camdriniaeth yn y Fro.


Mae cryfhau targedau'n un o'r rhain, sydd wedi'i dreialu yn y Sir ers mis Ebrill 2016.


Rheolir y cynllun gan Dîm Diogelwch Cymunedol yng Nghyngor y Fro, sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Adran Cynnal a Chadw a Thân a Diogelwch, y tîm sy’n gosod yr offer.


Yn rhan o’r cynllun, mae’r holl staff wedi derbyn hyfforddiant arbenigol ar gamdriniaeth ddomestig. 


Rhwng mis Ebrill diwethaf a mis Ionawr, derbyniodd 69 eiddo yn y Fro dargedau, ac mae’r adborth gan dderbynwyr wedi bod yn wych. 


Adroddodd un person gyflawnwr am ddod i’w chartref yn groes i orchymyn atal.   Cafodd yr heddlu ddelweddau, plediodd y  cyflawnwr yn euog a dedfrydodd i 20 wythnos yn y ddalfa.  


Dywedodd Hyrwyddwr Trais Domestig Annibynnol: "Mae’r adborth gan ein cleientiaid am TCC wedi bod mor gadarnhaol. Mae wir yn gwneud gwahaniaeth i sut mae person yn teimlo am aros yn ei gartref.  Mae’r gwaith gosod yn cael ei gwblhau'n gyflym ar ôl i’r angen gael ei nodi.”

 

Dywedodd Andrew Nash o Dân a Diogelwch Cyngor y Fro: “Roedd yn wych bod yn rhan o’r gwasanaeth hwn, sy’n helpu a chefnogi trigolion yn y Fro, yn enwedig pan maent yn dweud pa mor werthfawr yw'r gwasanaeth iddynt.  Amlygodd yr hyfforddiant a roddir i’n tîm y materion y mae dioddefwyr yn eu hwynebu bob dydd.”

 
Dywedodd Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai a Chadeirydd Partneriaeth Bro Diogelach: “Dyma wasanaeth gwych arall a gynigir mewn partneriaeth i sicrhau bod dioddefwyr camdriniaeth ddomestig yn teimlo’n fwy diogel ac yn aros yn eu cartrefi. Dyma un o lawer o gynlluniau ledled y Fro.  Mae Partneriaeth Bro Diogelach wedi ymrwymo i daclo camdriniaeth ddomestig yn ei holl ffurfiau.  Ni fydd Bro Morgannwg yn ei ddioddef."


Am fwy o wybodaeth am y cynllun hwn cysylltwch â Bro Diogelach ar 01446 450200.


Os ydych chi’n ddioddefwr trais domestig neu rywiol neu gamdriniaeth cysylltwch ag Atal y Fro ar 01446 744755 am gyngor a chymorth.