Cost of Living Support Icon

Gwyriadau bysus y Fro


03 Mai 2017

 

CivicGAN fod Eagleswell Road ar gau dros dro wrth y gyffordd â Boverton Road yn Nhrebefered, bydd gwyriadau i rai gwasanaethau bws yn y Fro.

 

Bydd y gwasanaethau 303 a 304 sy’n rhedeg rhwng Pen-y-bont ar Ogwr, y Barri a Chaerdydd yn rhedeg yn uniongyrchol drwy Le Pouliguen Way a Boverton Road, nid ar hyd Eagleswell Road na Llanmaes Road.


Bydd gwasanaeth X91, sy’n rhedeg rhwng Llanilltud Fawr a Chaerdydd, yn rhedeg ar hyd Le Pouliguen Way, Llanmaes Road a’r ffordd osgoi (B4265), nid ar hyd Eagleswell Road, Boverton Road a thrwy Drebefered.

 

Ni fydd effaith ar Wasanaeth 321 sy’n rhedeg rhwng Llanilltud Fawr, y Bont-faen a Thonysguboriau.

 

Bydd gwasanaeth arferol yn ôl cyn gynted ag y bydd y ffordd yn ailagor. Dylai preswylwyr edrych ar wefan y cyngor neu amserlenni safleoedd bws am y wybodaeth ddiweddaraf tra bod Cynllun Lleddfu Llifogydd Trebefered yn cael ei adeiladu.