Cost of Living Support Icon

Diwrnod mabolgampau Ysgol y Deri yn dangos esiampl o ran chwaraeon anabledd

 

31 Mai 2017

 

Aeth dros 100 o ddisgyblion i Ganolfan Hamdden Penarth ar gyfer Diwrnod Mabolgampau Ysgol Gynradd Ysgol y Deri yn ddiweddar, gyda sawl un o ysgolion y Fro yn cael eu cynrychioli yn y digwyddiad chwaraeon anabledd.

 

Wheelchair SprintsCafodd disgyblion o Ysgol y Deri, Ysgol Gynradd Parc Jenner ac Ysgol Gynradd Creigiau eu dosbarthu yn ôl gallu, a olygai eu bod i gyd yn cystadlu ar lefel deg.


Cystadlwyd ras wib 60 metr, campau taflu amrywiol a’r naid hir, ac roedd Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru Cyngor Bro Morgannwg wrth law i helpu gyda’r digwyddiadau.


Cefnogwyd yr holl ddigwyddiadau gan ddisgyblion hŷn o Ysgol y Deri hefyd sydd wedi bod yn gweithio gyda’r Cyngor yn ddiweddar i gwblhau’r Wobr Trefnwyr Chwaraeon Pobl Ifanc Actif, sydd wedi eu galluogi i helpu i drefnu a chefnogi gweithgareddau chwaraeon.


Dywedodd Simon Jones, swyddog y Cyngor yn y digwyddiad: “Hoffwn ddiolch i'r Disability sports daystaff rhagorol yn Ysgol y Deri am drefnu’r diwrnod; nid ar chwarae bach mae cael 100 o ddisgyblion i gymryd rhan mewn cystadleuaeth!  Roedd gwên enfawr ar wyneb pob disgybl drwy'r dydd, oedd yn brawf o wir lwyddiant y digwyddiad.



“Roedd hefyd yn wych bod y disgyblion hŷn o Ysgol y Deri wedi cael cyfle i ddefnyddio’r sgiliau y gwnaethant eu dysgu yn gynharach yn y flwyddyn; gwnaethant ysgwyddo’r cyfrifoldeb am gynnal y digwyddiadau a gwneud yn arbennig o dda.”


I gael rhagor o wybodaeth am Chwaraeon Anabledd ym Mro Morgannwg, cysylltwch â Simon Jones yn yr Adran Datblygu Chwaraeon a Chwarae ar 01446 704728 neu sljones@valeofglamorgan.gov.uk.