Cost of Living Support Icon

 

Landlord o’r Barri yw’r asiant cyntaf yng Nghymru i gael ei farnu’n euog am reoli eiddo heb drwydded

Mae landlord heb drwydded o’r Barri wedi cael dirwy o fwy na £1,000 ar ôl cael ei farnu’n euog yn Llys Ynadon Caerdydd.  

 

 

  • Dydd Mawrth, 28 Mis Tachwedd 2017

    Bro Morgannwg



Daeth deddfwriaeth a gyflwynodd y broses gofrestru landlordiaid a’r gofyniad i landlordiaid ac asiantau sy’n gosod a rheoli eiddo rhent yng Nghymru gael eu trwyddedu, i rym ar 23 Tachwedd 2015.

 

 

Rhoddodd y ddeddfwriaeth flwyddyn i’r bobl hynny oedd angen iddynt gydymffurfio wneud felly.  

 

Cafwyd y landlord hunanreoli Damian Cross o Rodfa’r Gwagenni, y Barri, yn euog o fethu â chael ei drwyddedu i osod a rheoli gweithgareddau ar gyfer eiddo yn Beaconsfield, Romilly Road, y Barri.

 

 

 

Rent Smart WalesRoedd Mr Cross wedi cofrestru’r eiddo ond heb wneud cais am drwydded. Methodd â thalu Hysbysiad Cosb Sefydlog am beidio â chydymffurfio, neu gyflwyno cais am drwydded neu benodi asiant.

 

 

Cafodd ddirwy o £660 am ddau drosedd dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a gorchmynnwyd iddo dalu costau llys o £543 a thâl dioddefwyr o £33. 

 

 

 

Dywedodd y Cyng. Hunter Jarvie, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod o Bwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: “Mae blwyddyn wedi bod ers y dyddiad cau i bob landlord gydag eiddo yng Nghymru gofrestru, ac nid yw'n dderbyniol bod landlordiaid ac asiantau sydd yn dal i drio gweithio y tu allan i'r gyfraith hon.

 

“Nid oes esgus i asiant masnachol beidio â chael ei gofrestru a'i drwyddedu, ac mae erlyn landlord heb drwydded o'r Barri yn brawf ein bod yn cymryd camau gweithredu. Rwy’n annog unrhyw landlordiaid sy’n defnyddio asiant masnachol i gadarnhau ei fod yn cydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru.”