Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg ar restr fer gwobr parciau

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ei ddewis i fod ar restr fer Gwobr Partner y Flwyddyn Fields in Trust, ar ôl dod i'r brig yng nghategori Cymru y wobr.

 

  • Dydd Mawrth, 28 Mis Tachwedd 2017

    Bro Morgannwg



Mae’n un o naw gwobr a fydd yn cael eu cyflwyno ar Faes Criced Lord's yn Llundain ar 29 Tachwedd, dan arweiniad y newyddiadurwraig a chyflwynydd chwaraeon Jacqui Oatley.


Cyflwynir Gwobr Partner y Flwyddyn i’r perchennog tir sydd wedi cofleidio gwerthoedd Fields in Trust drwy ddiogelu a hyrwyddo eu mannau awyr agored. Mae’n gwobrwyo sefydliadau sydd wedi gweithio’n galed i hyrwyddo gwaith yr ymddiriedolaeth dros y flwyddyn flaenorol.


Green2Mae Fields in Trust yn gwarchod mannau agored ledled y DU, a’i nod yw ceisio sicrhau bod gan bawb – yr hen a'r ifanc, yr abl eu cyrff a'r anabl - gyfle i ddefnyddio man agored lleol ar gyfer chwaraeon a hamdden am ddim.


Mae’n gweithio gyda dros 400 o Awdurdodau ar hyd a lled y DU i ddiogelu a gwella mannau hamdden awyr agored. 


Cafodd Cyngor y Fro ei enwebu ar gyfer y wobr yn sgil ei waith cyson dros flynyddoedd lawer i ddiogelu parciau a mannau gwyrdd lleol, a sicrhau y bydd gan bobl leol gyfle, wastad, i fwynhau yn yr awyr agored.


Rhaid i’r Cyngor nawr ymgiprys â’r lleill sydd ar y rhestr fer, o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, i gyrraedd y brig.


Mae ei le ar y rhestr fer yn gydnabyddiaeth bellach i barciau’r Cyngor, wedi i saith ohonynt ennill Gwobrau Baner Werdd yn ddiweddar, nod man awyr agored o'r ansawdd orau.

Dywedodd y Cyng. Gordon Kemp, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden: “Rydym yn falch ofnadwy o’r parciau rhagorol sydd gennym yn y Fro, fel y dangosodd y Gwobrau Baner Werdd diweddar.


Mae’r llwyddiant diweddaraf hwn yn brawf pellach o ymrwymiad a gwaith caled staff ein parciau. Nhw sy’n cadw’r mannau hyn i edrych mor wych gydol y flwyddyn, yn lloches hyfryd ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr."