Cost of Living Support Icon

 

Dweud eich dweud am ‘Ein Bro – Ein Dyfodol'

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Fro’n ymgynghori ar ei Gynllun Lles Drafft – 'Ein Bro – Ein Dyfodol' ac mae’n gofyn i aelodau’r cyhoedd rannu eu barn.  

 

  • Dydd Mawrth, 14 Mis Tachwedd 2017

    Bro Morgannwg



Mae arolwg ar-lein yn gofyn am eich ymateb, a gallwch ennill tocyn anrheg gwerth £50. 

 

Ymhlith aelodau’r BGC y mae Cyngor Bro Morgannwg, BIP Caerdydd a’r Fro, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg a Heddlu De Cymru. 

let's talk green logo

 

 

Cafodd yr ymgynghoriad ei lansio ddiwedd mis Medi a daw i ben ddydd Mercher 20 Rhagfyr.

 

Ym mis Mai eleni, cyhoeddodd y BGC ei asesiad lles lleol gan roi sail i’r amcanion a’r cynllun y mae’n rhaid i’r BGC ei gyhoeddi erbyn mis Mai 2018 yn unol â’i ddyletswyddau dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Dyma’r pedwar amcan:

  1. Galluogi pobl i gymryd rhan yn eu cymunedau lleol a llywio gwasanaethau lleol;
  2. Lleihau tlodi a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cysylltiedig ag amddifadedd;
  3. Rhoi i blant y dechrau gorau mewn bywyd;
  4. Diogelu, gwella a gwerthfawrogi’r amgylchedd. PSB Logo

 

Mae’r Cynllun yn cynnwys gweledigaeth ar gyfer y Fro yn 2050 a’r camau cyntaf y bydd partneriaid yn eu rhoi ar waith i wireddu eu hamcanion a'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol.

 

Ewch i’r wefan i weld rhagor o wybodaeth am y BGC. 

 

I gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, ewch i http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act/?skip=1&lang=cy