Cost of Living Support Icon

 

Disgyblion cynradd Sili yn cynnal cyfarfod Senedd yn Siambr Cyngor Bro Morgannwg

 

Gwnaeth disgyblion cynradd gymryd rheolaeth o Siambr y Cyngor drwy gynnal eu cyfarfod eu hunain yn seiliedig ar Senedd Llywodraeth Cynulliad Cymru.

  • Dydd Iau, 23 Mis Tachwedd 2017

    Bro Morgannwg



Cymrodd y disgyblion ran mewn gweithgareddau megis pleidleisio dros eu cynrychiolwyr; er enghraifft Gweinidog dros Chwaraeon a Gweinidog dros yr Amgylchedd.

 

Sully kids

Roedd Maer Bro Morgannwg, y Cyng. Janice Charles, ar gael i helpu’r Prif Weinidog i gynnal y cyfarfod, ynghyd â’r Cyng. Rachel Nugent-Finn.

 

Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet dros Addysg: “Pleser oedd croesawu’r plant i Siambr y Cyngor i'w galluogi nhw i gynnal cyfarfod Senedd a defnyddio offer y cyngor.

 

"Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath, a gobeithiaf y bydd ysgolion eraill Bro Morgannwg yn dewis cymryd rhan yn y dyfodol.”

 

Trafododd y Senedd rolau cenhadon a phynciau’n ymwneud â llywodraeth leol a’r llywodraeth ganolog, ynghyd â nodau ac amcanion yr ysgol dros y flwyddyn i ddod.  

 

 

Dywedodd y Pencampwr Ieuenctid, y Cyng. Leighton Rowlands, a oedd hefyd yn y digwyddiad: “Braf iawn oedd croesawu plant i Siambr y Cyngor i chwalu'r canfyddiad mai sefydliad diflas yw'r cyngor.”   


Sully kids at Senedd