Cost of Living Support Icon

 

Torfeydd yn dod i Benwythnos Agoriadol Parc yr Iâ yn Y Barri

Daeth y torfeydd i'r Barri dros y penwythnos i weld Parc yr Iâ yn ei ôl eleni.

 

  • Dydd Llun, 27 Mis Tachwedd 2017

    Bro Morgannwg

    Barri



ice2Yn dilyn ei gyflwyno dros naw diwrnod llwyddiannus y llynedd, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dod â llawr sglefrio yn ôl i ran o'r Parc Canolog, am gyfnod hwy y tro hwn.


Agorodd y llawr sglefrio dan do am 5.30pm ddydd Sadwrn yn dilyn goleuo’r goleuadau Nadolig ar Sgwâr y Brenin, gyda Maer Janice Charles a Dirprwy Faer Leighton Rowlands ymysg y cyntaf i roi esgidiau sglefrio am ei draed.


Daeth cannoedd o bobl eraill yno dros ddeuddydd cyntaf Parc yr Iâ. Bydd ar agor am 5 wythnos dros yr ŵyl eleni, a fydd yn agored tan 1 Ionawr (heblaw am Ddiwrnod Nadolig).

 

 

Mae tri stondin fwyd yn y lleoliad yn gwerthu detholiad o ddanteithion tymhorol a llawer o reidiau i’w mwynhau hefyd.

251117-003

 

Bydd y sesiynau sglefrio yn para 40 munud rhwng 10.30am tan 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Mercher, a than 8.30pm rhwng dydd Iau a dydd Sul.

 

Pris y tocynnau yw £7.50 i rai 16 oed a hŷn, £5 i rai dan 16 a £15 i deulu o bedwar.

 

Bydd yr arbenigwyr ar osod cylchoedd sglefrio, 11th Hour Events, sydd hefyd yn gyfrifol am osod Gŵyl y Gaeaf, Caerdydd a Theyrnas y Nadolig yn y Celtic Manor, unwaith eto yn gyfrifol am osod prif ddigwyddiad tymhorol y Cyngor. 

““r ôl bod mor boblogaidd y llynedd, pan glywais bod Parc yr Iâ yn dod yn ôl i’r Barri, roedd yn rhaid i mi fod yn un o’r cyntaf i fynd allan yno i fwynhau’r hwyl," meddai’r Cynghorydd Rowlands.


“Fel Cyngor, rwy’n falch iawn ein bod ni’n gallu dod â’r digwyddiad hwn yn ôl am gyfnod hwy eleni. Nid yn unig y mae’r llawr sglefrio yn cynnig cyfle i blant, oedolion a theuluoedd i gael blas ar hud a lledrith y Nadolig yng nghanol y Barri, ond mae hefyd yn dwyn nifer fawr o ymwelwyr i’r dref, sydd o fudd i fusnesau lleol.” - Cynghorydd Rowlands.