Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn addo’i gymorth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn 2017 

Bydd cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus trwy’r Fro a Chaerdydd yn dilyn Diwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Sadwrn 25 Tachwedd. 

 

  • Dydd Gwener, 24 Mis Tachwedd 2017

    Bro Morgannwg



Mae gorymdeithiau cyhoeddus, cinio codi arian, stondinau gwybodaeth a thrafodaethau yn rhai o’r digwyddiadau a fydd yn digwydd tan ddydd Mercher 29 Tachwedd.

 

Sefydlwyd y Rhuban Gwyn DU yn 2007 ac mae dros 500 o ddynion wedi cofrestru i fod yn Genhadon y Rhuban Gwyn.

 

Y nod yw dod â therfyn i drais dynion yn erbyn merched, am byth. Maent yn gweithio tuag at hyn trwy annog dynion i godi llais am ymddygiad treisgar a bwlio ac maent yn lledaenu neges cydraddoldeb a pharch.

 

Bydd cynhadledd gan Bro Ddiogelach, partneriaeth diogelwch cymunedol Bro Morgannwg, yn dangos y cynnydd a wnaed ym Mro Morgannwg o ran Deddf Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015 ar 1 Rhagfyr.

 

Ym mis Hydref eleni, newidiodd 100 o ddynion eu hesgidiau am esgidiau sodlau uchel a cherdded trwy ganol dinas Caerdydd i gefnogi dod â thrais domestig gan ddynion yn erbyn merched i ben.

 

Adroddwyd bod dros filiwn o ferched yn dioddef cam-drin domestig a dros 360,000 yn dioddef ymosodiadau rhywiol bob blwyddyn yn y DU.

 

Noddwyd y daith gerdded gan Gyngor Bro Morgannwg, Cyngor Caerdydd a Chymdeithas Dai Cadwyn.

 

Dywedodd y Cyng. Gordon Kemp, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden: “Fel Cyngor, rydyn ni'n falch o gefnogi digwyddiad 'Cerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi' ac rydyn ni’n falch o addo ein cefnogaeth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn a helpu i godi ymwybyddiaeth am drais domestig gan ddynion tuag at ferched.”

 

I ddangos eich cymorth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, gallwch ddangos eich cefnogaeth ar-lein neu drefnu eich digwyddiad eich hun.

 

Os ydych yn cynllunio digwyddiad i gefnogi’r Rhuban Gwyn DU, gallwch e-bostio Julie Grady, Cydlynydd Cam-drin Domestig ar julie.grady2@south-wales.pnn.police.uk  

 

Am ragor o wybodaeth, ewch i'r wefan

 

 White-ribbon-day-message-Cropped-750x391 (1)