Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn codi arian ar gyfer diwrnod toiledau rhyngwladol 

Bydd casgliad ym maes parcio'r Swyddfeydd Dinesig i godi arian ar gyfer helpu i adeiladu toiledau yng nghymunedau tlotaf y byd. 

 

  • Dydd Iau, 09 Mis Tachwedd 2017

    Bro Morgannwg



Ar hyn o bryd, mae 16 o doiledau yn y Swyddfeydd Dinesig, Swyddfeydd Dociau’r Barri, Llyfrgell y Barri a Pharlwr y Maer, wedi’u gefeillio gyda thoiledau trydydd byd yn Burundi a Chambodia drwy elusennau Cord a Tearfund.

 

Bydd Rowan Hughes, Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y Fro, yn casglu arian yn y brif faes parcio ar fore dydd Iau, 16 Tachwedd.

 

Bydd bore coffi hefyd yn cael ei gynnal yn Oriel Gelf Ganolog Y Barri ar 16 Tachwedd o 10am ymlaen, i ddathlu Diwrnod Toiledau Rhyngwladol. Bydd raffl ynghyd â chyfle i brynu papur toiled wedi’i brintio a sebon almon a fanila.

 

 

Ym mis Ebrill 2014, cafodd Rowan a 21 o bobl eraill o’r tîm SRS, frwydro gerdded 2 filltir ar draws Bont Hafren wedi'u gwisgo mewn ‘onesies’. Cododd y tim mwy na £2,000 ar gyfer ‘Toilet Twinning’.

 

 

                                                                                                              

 

 

Rowan Hughes walking along the Severn Bridge

"Es i Rwanda am y tro cyntaf yn 2005, ac rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun pa mor wael yw’r cyfleusterau a sut y dylem ni werthfawrogi'r cyfleusterau sydd gennym.

 

"Mae 16 o doiledau wedi’u gefeillio yn y Fro, ac rydym yn gobeithio gefeillio llawer mwy. Y tro diwethaf, gwnaethom godi digon o arian i dalu am ddau doiled, sy’n £60 yr un. Rwy’n gobeithio y gallwn godi digon o arian eleni i dalu am ddau doiled i ddynion a dau doiled i ferched.”

 

- Rowan Hughes, Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ar gyfer Cyngor Bro Morgannwg. 

 

Bob dydd, mae 2.5 biliwn o bobl ledled y byd sydd heb unrhyw le diogel, preifat na glân i fynd i'r toiled. Mae hynny gyfystyr â 40% o boblogaeth y byd, sy’n gorfod defnyddio caeau, nentydd, afonydd, rheilffyrdd, camlesi, ochrau ffyrdd, bagiau plastig neu fwcedi budr sy’n llawn afiechydon bob dydd. 

 

I gael rhagor o wybodaeth am efeillio toiledau, cymrwch olwg ar y wefan

 

 

Group Photo on the Severn Bridge