Cost of Living Support Icon

 

Diolch i wirfoddolwyr am eu gwaith caled a'u hymroddiad i barciau ledled Bro Morgannwg

Mae grwpiau gwirfoddoli mewn parciau ledled y sir wedi cael clod am eu gwaith caled parhaus wrth gynnal a chadw mannau gwyrdd y Fro.

 

  • Dydd Llun, 20 Mis Tachwedd 2017

    Bro Morgannwg



 

Cafodd prosiect hyfforddi chwe wythnos ei lansio i annog pobl i wirfoddoli mewn parciau a mannau agored ledled Bro Morgannwg, a’i gefnogi gan Hafod, Newydd, a’r Tîm buddsoddiad cymunedol gyda Chartrefi’r Fro. 

 

 

Hwn oedd rhaglen profiad gwaith gyntaf gan Vale Fireflies, mewn partneriaeth gyda’r tîm parciau a mannau agored.

 

Roedd y prosiect yn cynnwys nifer o fodiwlau i’r gwirfoddolwyr, yn ogystal â phrofiad gwaith am dair wythnos yn Barc Fictoria yn y Barri ac yn Gerddi’r Parêd ger Ynys y Barri.  

 

Cllr Kemp and volunteers at Victoria Park

 

Mae Parc Fictoria yn y Barri yn un o dri o Barciau’r Fro a enwebwyd gan y cyhoedd ar gyfer gwobr elusen Fields in Trust - Parc Gorau’r DU, yn dilyn eich pleidlais CHI!  2017.

 

 

Canodd Prif Arddwr Parc Fictoria, Mike Parsons, glodydd dau o’u gwirfoddolwyr rheolaidd, Callum a Dawood.

 

 

Mae Callum, sy’n 23 oed, yn gwirfoddoli am un diwrnod ym Mharc Fictoria ac mae Dawood, sy’n dod o Syria yn wreiddiol, wedi bod yn gwirfoddoli am dri diwrnod yr wythnos yn y parc ers sawl mis.   

 

 

Dywedodd Mike Parsons: “Mae’r bois yn gwneud gwaith da iawn, ac rydym wirioneddol yn gwerthfawrogi'r hyn y maen nhw'n ei wneud, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am bob dim. Mae teimlad o ysbryd cymunedol da iawn yma.”

 

Mae Neil Gibbon, prif arddwr Gerddi’r Parêd ger Ynys y Barri, wedi bod yn goruchwylio grŵp o wirfoddolwyr sydd wedi helpu am dri diwrnod yr wythnos dros gyfnod o chwech wythnos. Mae’r grŵp wedi bod yn helpu i dorri gwrychoedd sydd wedi gordyfu, a chynnal a chadw’r ardal, cyn i dîm newydd ddod i gymryd drosodd a chario ‘mlaen â’r gwaith da dros gyfnod o chwech wythnos arall.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden, y Cynghorydd Gordon Kemp: “Mae’n wych gweld gwirfoddolwyr y parc yn mwynhau cynnal a chadw’r parciau, ac o gwrdd â’r timau a gweld sut y maen nhw’n gwneud hynny bob dydd, mae'n bwysig eu bod nhw'n cael eu cydnabod am eu gwaith caled parhaus.

 

"Diolch i’r garddwyr a’r gwirfoddolwyr am bopeth y maen nhw’n ei wneud, a gobeithiaf y gall hyn annog mwy o bobl i fynd i’r afael â gwella’r gymuned.”

 

 Gardening work at the Parade