Cost of Living Support Icon

 

Allwch chi helpu i gynnig gweithgareddau newydd i deuluoedd yn y Fro?

Dymuna Tîm Cymunedau Gwledig Creadigol Cyngor Bro Morgannwg arbrofi gyda gweithgareddau newydd i deuluoedd yn y Fro wledig.  

 

  • Dydd Mawrth, 03 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



Gallai hyn gynnwys unrhyw weithgaredd mae plant oed ysgol yn ei wneud fel coginio, chwaraeon, cerddoriaeth a drama, celf a chrefft. 

 

Dymuna CAC glywed gan ddarparwyr gweithgareddau fyddai â diddordeb cynnig y mathau hyn o weithgaredd yn eich cymuned leol.

Creative-Rural-Communities-logo

 

Bydd y gweithgareddau yn digwydd mewn pedair cymuned yn y Fro wledig: Sain Tathan, y Wenfô, Rhŵs ac Ystradowen lle nodwyd yr angen am fwy o wasanaethau yn ystod y project Mapio Cymunedol. 

 

Mae hon yn ymagwedd wahanol i ddarparu gweithgareddau ar gyfer plant. 

 

Bydd teuluoedd yn gallu treulio amser o ansawdd gyda’i gilydd i ffwrdd o alwadau bywyd y cartref, neu bydd rhieni yn gallu cael rhywfaint o amser o ansawdd ‘personol’ tra bod y plant yn gwneud eu gweithgareddau eu hunain. 

 

Mae’r project hwn wedi derbyn arian drwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Cymru sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd dros Ddatblygu Gwledig, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg.

 

 

"We have listened to feedback from residents at various community engagement events.  Parents have said there are not enough activities for school age children in rural communities.  Where there were activities, parents were at a loss of what to do in that hour during their children’s activities.

 

"We want to work with activity providers to extend their existing offer to provide activities with parents and school aged children together or side by side."

 - Cllr Jonathan Bird, Cabinet Member for Regeneration and Planning.

 

 

Bydd hyn yn gyfle i ddarparwyr gweithgareddau i dreialu dull newydd o gynnig gwasanaeth heb eu peryglu eu hunain. 

 

Bydd y tîm yn cynnig cymorth llawn i ddarparwyr gweithgareddau, er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau yn llwyddiant. 

 

 

Cymerwch cip olwg ar y poster

 

Os carech ymuno, cysylltwch â’r tîm CAC i drafod eich syniadau drwy ffonio 01446 704226 neu drwy e-bostio create@valeofglamorgan.gov.uk