Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn cadarnhau codiad cyflog i’r staff ar y cyflogau isaf

 

Bydd cyflog dros fil o weithwyr Cyngor Bro Morgannwg, yn cynnwys glanhawyr, cynorthwywyr arlwyo a staff cartrefi gofal yn codi o 1 Rhagfyr 2017.

 

 

  • Dydd Mawrth, 10 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



Mae cabinet y Cyngor wedi rhoi cymeradwyaeth derfynol i’r cynigion i godi cyfradd isaf y Cyngor fesul awr i £7.90.

 

Cynigwyd y newid yn gyntaf gan Arweinydd y Cyngor, y Cyng. John Thomas ym mis Gorffennaf a chytunwyd arno mewn egwyddor ym mis Medi, yn dibynnu ar ystyriaeth gan nifer o bwyllgorau ac ymgynghoriad â’r undebau llafur.

 

 

“Pan gyhoeddais fwriad y Cyngor i gynyddu cyflog y staff sy’n derbyn y cyflog isaf ym mis Gorffennaf, croesawyd y cynnig gan staff a’r undebau felly rwyf i wrth fy modd fy mod wedi gallu gwireddu'r addewid mor gyflym.

 

 “Mae’r staff a fydd yn derbyn y codiad cyflog yn cynnig cymorth hanfodol i lawer o’n prif wasanaethau ac mae’r cynnydd yn gydnabyddiaeth o hynny. Yn ddiweddar, bu i mi ategu fy ymrwymiad i fynd gam ymhellach a symud y Cyngor tuag at gyflog byw sylfaenol uwch yn y blynyddoedd a ddaw, ac mae hyn yn gam pwysig tua’r cyfeiriad hwnnw.”

 

 - Arweinydd y Cyngor, y Cyng. John Thomas. 

 

The Council’s cabinet will increase minimum the  hourly rate