Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn ymateb i bryderon ynghylch gwaith biomas

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad diweddaraf gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

  • Dydd Mercher, 04 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



Mae’r ymateb manwl i’w weld yma  ac mae’n nodi’r pryderon sy’n cael eu codi, sy’n ymwneud yn bennaf â sŵn o’r safle a phryderon ynghylch y ffordd y cafodd y goblygiadau o ran ansawdd aer eu hasesu. 

 

Civic O ganlyniad, mae’r Cyngor wedi penderfynu na ddylid caniatáu trwydded Amgylcheddol ar yr adeg hon.

 

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cais gan Cyfoeth Naturiol Cymru, sef y sefydliad sy'n gyfrifol am symyd ymlaen â'r broses trwyddedu.

 

At hynny, a dros y dirnodau diwethaf, mae cwynion wedi’u cael am sŵn o’r gwaith adeiladu a gosod ar y safle, yn aml yn hwyr yn y nos.

 

Mae’r Cyngor wedi gweithredu’n brydlon ar bryderon gan gyflwyno hysbysiad adran 60 Deddf Rheoli Llygredd 1974 i’r contractwyr ar ddydd Mercher 28 Medi.

 

Rhoddir caniatâd i’r Gwaith Biomas barhau y tu allan i'r oriau cyfyngedig, ar yr amod nad yw'r sŵn yn amharu ar drigolion yn eu cartrefi.

 

Ni chaniateir cynnal gwaith swnllyd dim ond rhwng:

 

Dydd Llun i Ddydd Gwener 07:30 - 18:00

Dydd Sadwrn 08:00 – 12:30

Ddim o gwbl ar ddydd Sul na gwyliau banc

 

Dylai unrhyw breswylydd yr amherir arnynt yn eu cartrefi gan sŵn y tu allan i'r oriau uchod, gysylltu â'r Cyngor ar 0300 123 6696.

 

Yn yr un modd, os effeithir ar unrhyw breswylydd gan oleuadau o’r safle, dylent hefyd ffonio’r rhif uchod.

 

Bydd Swyddog yn cysylltu â’r preswylydd ac yn trefnu i ymchwilio i’r gŵyn; bydd hyn fel arfer yn cynnwys ymweliadau ag eiddo i asesu’r llygredd sŵn neu olau.  Efallai y bydd gofyn i breswylydd hefyd ddarparu datganiad tyst, os yw'n briodol. 


Rydym yn parhau i sicrhau ein bod mewn sefyllfa i ddelio ag unrhyw broblemau parhaus mewn modd prydlon ac effeithlon ac yn ymgysylltu â thrigolion a'r gymuned ehangach.