Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn ystyried camau gweithredu brys ar dreillio Hinkley Point

Bydd adroddiad i’r Cabinet ddydd Llun 9 yn ceisio awdurdod i'r Cyng. John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, ysgrifennu ar frys i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a Phrif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn mynegi pryderon y Cyngor a gofyn am gyfarfod i drafod gwaredu deunydd ymbelydrol wedi'i dreillio ym Môr Hafren ar safle y cyfeirir ato fel Tiroedd Caerdydd ger Penarth.  

 

  • Dydd Gwener, 06 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



 

Mae’r adroddiad gan y Cyng. Geoff Cox, sef yr Aelod Cabinet dros Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, yn rhestru’r pryderon a godwyd mewn deiseb i Lywodraeth Cymru ac opsiynau’r Cyngor ar gyfer codi'r pryderon hynny gyda Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. 

 

Cllr John Thomas

"Wrth gwrs, mae trigolion lleol yn bryderus iawn am y cynnig hwn ac er mwyn gwasanaethu eu lles, bydd y Cyngor hwn yn cymryd yr holl gamau posibl i sicrhau yr ymgymerir â’r holl asesiadau ang

enrheidiol pan ac os aiff unrhyw ddyddodi deunyddiau yn ei flaen.

 

“Rhoddwyd y drwydded gychwynnol gan CNC fwy na thair blynedd yn ôl a chodwyd pryderon ers hynny ynglŷn â digonolrwydd yr asesiad radiolegol yr ymgymerwyd ag ef ar y pryd.

 

“Rwy’n credu bod gofyn o leiaf asesiad radiolegol mwy trylwyr, sy’n cynnwys mwy o samplo’r deunyddiau’n cael ei wneud i’r dyfnder cloddio llawn a thros yr ardal cloddion gyfan.

 

“Rwyf hefyd yn bwriadu pwyso ar CNC a Llywodraeth Cymru i gynnwys arweinwyr pob awdurdod lleol yr effeithir arnynt fel y roddir llais yn y broses i'r trigolion hynny yr effeithir ar eu bywydau." -

Cyng. Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg. 

 

Ar ôl cais a wnaed ym mis Awst 2012, rhoddwyd Trwydded Forol (12/45/ML) ym mis Gorffennaf 2014 gan NRW i NNB Genco, sy’n is-gwmni i EDF Energy, er mwyn gwaredu’r deunyddiau a droellwyd, yn codi o waith sy'n gysylltiedig â datblygiad gorsaf bŵer Hinkley Point.

 

 

 

Ni chafodd unrhyw ddeunydd o Hinkley Point ei ddyddodi ar safle Tiroedd Caerdydd eto ond mae’r drwydded yn parhau’n ddilys tan 4 Mawrth 2019 ac mae’n caniatáu i 304,885 tunnell gael eu ddyddodi ar y safle.