Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn erlyn adeiladwr twyllodrus yn llwyddiannus

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi erlyn yr adeiladwr twyllodrus Ian Cottle yn llwyddiannus am gyfres o droseddau safonau masnach ar ôl ymchwiliad gan y Gwasanaethau Rheoliadol A Rennir, y corff sy’n gyfrifol am gynnig y gwasanaeth hwn ledled y Fro, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.

 

  • Dydd Mercher, 11 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



Dedfrydwyd Mr Cottle o’r Barri i 22 mis yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd ar ôl pledio’n euog i 15 cyhuddiad dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.

 

pic one

Maent yn ymwneud â throseddau yn erbyn 8 person yn y Fro yn cynnwys camarwain pobl i roi arian iddo am ddeunyddiau

nas prynwyd ganddo, methu â rhoi hawliau canslo i gwsmeriaid a hyd yn oed dechrau ar waith heb ganiatâd.

 

 

Gosodwyd gwaith allan ar gytundeb i eraill a wnaeth waith gwael ei safon a gadawyd un eiddo mewn cyflwr peryglus oherwydd gwaith adeiladu eilradd.

 

 

Anfonodd Mr Cottle negeseuon testun at gwsmeriaid, gyda'r barnwr Neil Bidder yn disgrifio rhai ohonynt yn fygythiol ac yn agos at flacmel.

 

 

Roedd y bobl y cyflogodd mor anghymwys fel bod angen i un ohonynt fenthyca brwsh paent a morthwyl gan gwsmer.

 

Dywedodd y Barnwr Bidder wrth Mr Cottle y bydd yn gwneud hanner o’i dymor yn y carchar cyn cael ei ryddhau ar drwydded ac y bydd yn dychwelyd i'r carchar pe bai'n torri'r drwydded honno.

 

 

Gorchmynnwyd iddo dalu £2000 fel iawndal dioddefwr a chostau erlyn o £2000. Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu gordal dioddefwr o £140 a gwaharddwyd ef rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am bum mlynedd.

 

 

 

 

 

Cyng.Hunter Jarvie, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod o Bwyllgor y
Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: “Er gwaethaf cael ei gynghori gan Safonau Masnach, mae gwaith cywilyddus y diffynnydd wedi gadael cwsmeriaid i gyfri’r gost. Yn ogystal, ychwanegodd dull bygythiol Mr Cottle o gyfathrebu at ddioddefaint cwsmeriaid wrth iddynt geisio datrys eu problemau gydag ef. Rwy’n gobeithio bod yr erlyniad hwn yn anfon neges glir na chaiff arferion masnachu o’r math hwn eu goddef.

 

“Byddwn yn adleisio cyngor y barnwr i gael dyfynbrisiau ysgrifenedig, wrth drefnu gwaith adeiladu. Dylai pobl hefyd fod yn ymwybodol bod y gyfraith yn galluogi person i ganslo contractau a wnaed yn eu cartrefi.

 

"Byddwn hefyd yn annog trigolion i gymryd amser a gofal wrth ddewis masnachwyr i weithio yn eu cartrefi. Yn ddelfrydol chwiliwch am rywun sy’n aelod o gymdeithas fasnapic threechu berthnasol neu  gynllun masnachwyr cyfrifol; a gofynnwch i weld enghreifftiau o waith arall y mae nhw wedi’i gwblhau bob tro."

 

 

 

Dylai unrhyw un sydd â phryderon am fasnachwyr twyllodrus neu sy’n chwilio am gyngor ar fasnachwyr dibynadwy gysylltu â Chyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu fynd i www.citizensadvice.org.uk