Cost of Living Support Icon

 

Gwobr arloesi o fri i broject Rooms4U Cyngor Bro Morgannwg

Mae project tai a rennir, Rooms4U, sy’n cael cyllid gan Crisis UK wedi ennill gwobr mawr ei bri Pat Chown am arloesi ym maes tai.  

 

  • Dydd Gwener, 20 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



John Chown, Pat Chown’s husband, presents the award to Hazel Davies from Rooms4U (right) and Emma Rowlands from Newydd (left)

Mae Rooms4U, sy’n cael ei gynnal gan Gymdeithas Tai Newydd â chymorth gan Gyngor Bro Morgannwg, yn broject peilot ym Mro Morgannwg. Ei nod yw helpu pobl ifanc iau na 35 oed i osgoi digartrefedd drwy rannu tai.  

 

 

Cafodd y project ei lansio 17 mlynedd yn ôl gan Dai Cymunedol Cymru er cof am Pat Chown a fu’n helpu eraill drwy gydol ei bywyd.

 

 

Y nod yw uno pobl ifanc i roi cymorth i’w gilydd yn eu cartref eu hunain.  

 

Cafodd Rooms4U wobr a £1,000 yng Nghynhadledd One Big ddydd Iau 5 Hydref yng Ngwesty Metropole yn Llandrindod.  

 

 

 

“Dw i wedi cyffroi’n lân bod Rooms4U wedi ennill Gwobr Mawr ei Bri Pat Chown.  

 

"Pan fo tenant ifanc yn dweud wrthych chi y buodd e’n yfed bob dydd ac yn dioddef iselder, ac y gwnaeth ystyried hunanladdiad, ond nawr mae’n teimlo’n grêt oherwydd bod ganddo gartref sefydlog gyda phobl o’r un anian lle y mae’n gynnes, mae’n bwyta’n dda ac mae wedi dechrau chwilio am swydd, mae’n bendant yn rhoi boddhad mawr i chi.  

 

“Mae’n gyffrous iawn gweld sut y bydd y project yn datblygu dros y misoedd nesaf wrth i ni geisio gwella gyda’r sector rhent preifat.  Bydd y £1,000 yn mynd tuag at Fanc Bwyd y Fro yn y Barri i helpu pobl os byddan nhw’n wynebu anawsterau ariannol.”

- Hazel Davies, Swyddog Project Rooms4U.