Cost of Living Support Icon

 

Cyhoeddi Cynllun Cynnydd Rhan Dau

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi Rhan 2 ei Gynllun Cynnydd ar gyfer 2017.

 

  • Dydd Iau, 26 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg



Mae’r cynllun yn adrodd ar berfformiad y Cyngor dros y flwyddyn flaenorol, trwy ddefnyddio ystod o ddata cenedlaethol a lleol.

 “Mae’r Cyngor bob amser wrthi’n gweithio i roi’r gwasanaeth gorau posibl i drigolion Bro Morgannwg gan hefyd geisio gwella. Mae’r Cynllun Cynnydd yn edrych ar yr hyn mae’r Cyngor wedi’i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf a hefyd yn adrodd yn benodol ar ein cynnydd wrth gyflawni’r amcanion gwella a roesom i’n hunain y llynedd.”- Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr 

Mae crynodeb o’r cynllun ar gael yn ogystal â’r cynllun llawn.


Gellir gweld y cynllun a’r crynodeb, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar dudalen y Cynllun Cynnydd.


Bydd copïau caled o’r cynllun a’r crynodeb hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd ac wrth dderbynfeydd cynghorau.