Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn bwrw ymlaen â gweledigaeth ffres i safle Marchnad Da Byw y Bont-faen

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn bwrw ymlaen â chynllun uchelgeisiol i roi hwb i ganol tref Y Bont-faen drwy adfywio’r Farchnad Da Byw ar ôl cymeradwyaeth gan y Cabinet ddydd Llun.

 

  • Dydd Llun, 23 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg

    Cowbridge

    Rural Vale



Mae’r cynigion yn cynnwys ailddatblygu safle drwy adleoli’r Farchnad Da byw bresennol i le ar gyrion y dref.  Bydd rhan o’r ailddatblygu’n cynnwys darparu Menter Gymunedol Marchnad y Fro (VMCE) i godi Y Gyfnewidfa, adeilad cymunedol newydd ar y safle ynghyd â gwelliannau angenrheidiol i feysydd parcio cyhoeddus.  


Ac mae posibiliad bod modd adfer wal y dref gan Ymddiriedolaeth y Siarter, yn amodol ar gyllid, hyfywedd a chaniatâd statudol.  

 

Cowbridge marketMae’r cynllun hwn wedi’i gyflwyno gan Fwrdd Project newydd a sefydlwyd gan y Cyngor ar ôl nodi’r ardal hon o’r Bont-faen fel rhywle yr oedd angen ei adfywio’n gynhwysfawr.

 

Cred y Bwrdd newydd, a sefydlwyd ar ôl etholiadau lleol eleni, fod potensial mawr am ddatblygu cynaliadwy o safon uchel ar y safle oherwydd ei fod yng nghanol y dref yn Ardal Gadwraeth y Bon—faen a muriau cyfagos y dref.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Credwn y bydd adfywio’r safle’n atgyfnerthu canol y dref, yn creu mannau parcio angenrheidiol ac yn cynnal cyfle i’r VCME gyflawni Y Gyfnewidfa a’r Ymddiriedolaeth Siarter i fwrw ymlaen ag adfer muriau hanesyddol y dref.  

 

“Cafwyd cyfarfodydd adeiladol rhwng y Bwrdd, gweithredwr y farchnad, Glam Marts, a VCME ac mae’r Bwrdd eisoes yn gweithio gyda Glam Marts i nodi lleolida arall a allai gweld y farchnad da byw’n cael ei sefydlu’n rhan o ‘hyb amaethyddol’ newydd cyffrous i’r ardal leol.

 

“Gwyddom fod hwn yn gam uchelgeisiol a sylweddol o’r hyn a ystyriwyd yn y gorffennol. Mae’n gyfle cyffrous i ailddatblygu’r safle’n gynhwysfawr er budd trigolion, busnesau a’r gymuned ehangach.  Yn amlwg câi unrhyw ddatblygiad newydd ei ddylunio i barchu ei gyd-destun hanesyddol a'r statws ardal gadwraeth. Er hyn, rydym yn benderfynol o lwyddo a gwneud canol tref Y Bont-faen yn fyw ffyniannus nag eried.”

Mae’r VCME wedi cytuno bod gan y cynigion ar ddyfodol y farchnad da byw, creu adeilad ‘Y Gyfnewidfa’ cymunedol a’r cyfleusterau parcio ceir ehangach botensial enfawr.   

 

Cowbridge market 1

Dywedodd Mandy Davies, cadeiryddes VMCE: “Wrth wraidd y project hwn mae’r angen i greu cyfleuster a fydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r dref, cefnogi’r gymuned a chynnal treftadaeth y Bont-faen fel tref farchnad. Mae’n broject amlwynebog sy’n cynnwys y farchnad da byw, adeilad ‘Y Gyfnewidfa’, parcio ychwanegol a gwell a gobeithio adfer muriau’r dref hefyd. Wrth gwrs, mae angen cydbwysedd i sicrhau’r canlyniadau cywir.  Croesawn agwedd gadarnhaol Bwrdd Project newydd y cyngor a byddwn yn parhau i weithio’n agos â nhw, Glam Marts ac Ymddiriedolaeth Siarter y Bont-faen i sicrhau’r canlyniad gorau i’n tref, ein ffermwyr, ein manwerthwyr a’n cymuned.”