Cost of Living Support Icon

 

Pentref Iâ Cyngor Bro Morgannwg i ddychwelyd i’r Barri am yr ail flwyddyn

Bydd y Pentref Iâ yn dychwelyd am gyfnod estynedig y Nadolig hwn yn dilyn ei gyflwyno’n llwyddiannus y llynedd.

 

  • Dydd Llun, 16 Mis Hydref 2017

    Bro Morgannwg

    Barri


 

 

Ice-Central-2017

Gwisgodd miloedd eu llafnau sglefrio yn ystod y digwyddiad naw diwrnod yn 2016, a welodd gylch sglefrio cyntaf y Barri yn cael ei godi ar ran o’r Parc Canolog. A’r tro hwn bydd hyd yn oed mwy o bobl yn cael y cyfle i flasu canolbwynt rhaglen ddigwyddiadau Nadolig Cyngor Bro Morgannwg am y bydd yn agor am dair wythnos lawn. 

 

Disgwylir mwy o gyhoeddiadau cyffrous cyn i’r cylch agor am 5.30pm ar Ddydd Sadwrn 25 Tachwedd, yn dilyn goleuo’r Goleuadau Nadolig ar Sgwâr y Brenin. Bydd ar agor tan Ddydd Llun 1 Ionawr, gyda sesiynau 40 munud ar waith tan 6.30pm o Ddydd Llun i Ddydd Mercher a tan 8.30pm Ddydd Iau tan Ddydd Sul.


Pris y tocynnau yw £7.50 i rai 16 oed a hŷn, £5 i rai dan 16 a £15 i deulu o bedwar.


Bydd yr arbenigwyr ar osod cylchoedd sglefrio, 11th Hour Events, sydd hefyd yn gyfrifol am osod Gŵyl y Gaeaf, Caerdydd a Theyrnas y Nadolig yn y Celtic Manor, unwaith eto yn gyfrifol am osod prif ddigwyddiad tymhorol y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Adfywio a Chynllunio: “Profodd y Pentref Iâ yn hynod boblogaidd y llynedd, gyda’r adborth yn arbennig o gadarnhaol, felly rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu dod ag ef yn ôl am gyfnod hwy y Nadolig hwn. Nid yn unig y mae’r cylch yn cynnig cyfle i blant, oedolion a theuluoedd i flasu rhywfaint o hud y Nadolig yng nghanol y Barri, ond mae hefyd yn dwyn nifer fawr o ymwelwyr i’r dref, all ond bod o fudd i fusnesau lleol.”

Tickets logo

Tocynnau

Bydd bachu lle ar yr iâ hefyd yn haws diolch i system gadw lle ar-lein. Gall ymwelwyr archebu arlein o flaen llaw neu ddod lawr i Pharc yr Iâ a prynnu tocynnau o'r swyddfa mewn person. 

 

 

Tocynnau