Cyngor Bro Morgannwg i gynnal ras 10 cilometr o gwmpas Ynys y Barri
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno cynnal ras ar y ffordd, 10 cilometr o hyd, o gwmpas Ynys y Barri yr haf nesaf a allai roi hwb gwerth £1 miliwn i'r economi leol.
Bydd y digwyddiad, a drefnir mewn partneriaeth â Rhedeg dros Gymru, sef y grŵp y tu ôl i Hanner Marathon Caerdydd hynod lwyddiannus, yn digwydd ddechrau mis Awst.
Er nad ydyw wedi’i bennu’n derfynol eto, byddai’r llwybr arfaethedig yn cynnwys tua 3,000 o redwyr yn cychwyn ar Friars Road cyn teithio ar hyd Harbour Road, i lawr y Parêd, o gwmpas yr hen Knap Lido a heibio'r llyn.
Gan deithio trwy Barc Romilly, bydd y cystadleuwyr wedyn yn mynd i Broad Street, yn troi i’r dde ar Subway Road ac yn dod allan ar Ffordd y Mileniwm.
Ar ôl rhedeg o gwmpas glannau’r dŵr a heibio Asda, bydd y ras yn parhau i lawr Paget Road cyn gorffen lle y dechreuodd.
Dylai’r ras gael ei chynnal yng nghanol y bore, a dim ond am ddwy awr byddai’r ffyrdd ar gau, gan amharu cyn lleied â phosibl ar breswylwyr lleol.
Byddai’n ffurfio rhan o gyfres o rasys 10 cilometr o gwmpas De Cymru ac yn rhan o gyfres Penwythnosau Ynys y Barri sy’n hynod boblogaidd ac sydd hefyd yn cynnwys digwyddiadau Isle of Fire a Sinema awyr agored.
“Mae’r Cyngor wedi cynnal gwaith adfywio mawr yn Ynys y Barri yn y blynyddoedd diwethaf er mwyn sefydlu'r ardal fel cyrchfan glan môr o safon uchel. Aeth hyn law yn llaw â rhaglen ddigwyddiadau o’r radd flaenaf o’r enw Cyfres Penwythnosau Ynys y Barri.
“Gobeithio y gall y ras hon fod yr ychwanegiad diweddaraf at y rhaglen honno, gan ychwanegu at apêl yr Ynys a denu llawer o ymwelwyr newydd, a all yn ei dro fod o fudd i'r economi leol. Caiff preswylwyr a busnesau lleol y newyddion diweddaraf am drefniadau'r ras a gwneir pob ymdrech i sicrhau yr amherir cyn lleied â phosibl."
- Cyng.Gordon Kemp, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd
a Hamdden
Dywedodd Prif Weithredwr Rhedeg dros Gymru, Matt Newman: “Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg i ddod â digwyddiad 10 cilometr newydd i’r Barri yn 2018.
“Hwyl i'r teulu a chodi arian at elusen fydd wrth wraidd ras 10 cilometr Ynys y Barri, a bydd yn ddigwyddiad y gall rhedwyr o bob oedran a gallu ei fwynhau.
"Bydd lansiad swyddogol yn cael ei gynnal yn yr wythnosau sydd i ddod, pan gaiff rhagor o fanylion eu datgelu, gan gynnwys y llwybr a gwybodaeth am gofrestru.”